Beginners Guide to TikTok for Search - Rachel Pearson - We are Tilt __ Bright...
Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol
1. Cyfleoedd Economaidd i
Gymru yn sgil Datblygu Ynni
Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol
Adroddiad gan Regeneris
Consulting ac Uned Ymchwil i
Economi Cymru, Ysgol Fusnes
Caerdydd
2. RenewableUK Cymru
Cyfleoedd Economaidd i
Gymru yn sgil Datblygu
Ynni Gwynt ar y Tir yn y
Dyfodol
Ionawr 2013
Regeneris Consulting Ltd
Faulkner House
Faulkner Street
Manchester
M1 4DY
0161 234 9910
www.regeneris.co.uk
3. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
Cynnwys
Crynodeb Gweithredol 1
1. Cyflwyniad 10
2. Trosolwg o'r Dull Asesu 12
3. Y Sector Ynni Gwynt ar y Tir yng Nghymru 20
4. Cyfleoedd Economaidd i Gymru 35
5. Buddiannau Economaidd Lleol 50
6. Casgliadau ac Argymhellion 66
Atodiad A Methodoleg Effaith Economaidd A-1
Atodiad B Holiadur yr Arolwg B-1
Atodiad C Ymgynghoreion C-1
Atodiad D Astudiaethau Achos D-1
4. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
Ynglŷn â'r Awduron
Cwmni ymgynghori economaidd annibynnol sy'n arbenigo mewn datblygu economaidd yw
Regeneris Consulting. Rydym yn gwmni blaenllaw ym maes asesu effeithiau economaidd-
gymdeithasol sydd wedi cynnal llawer o astudiaethau mewn amrywiaeth o sectorau, gan
gynnwys ynni, tai, band eang, twristiaeth a hamdden, tir ac eiddo, fferylliaeth, y diwydiant
moduro ac awyrofod, ac eraill. Rydym yn arbenigo mewn defnyddio technegau dadansoddi er
mwyn nodi effeithiau economaidd-gymdeithasol amrywiol sectorau, cwmnïau, prosiectau
buddsoddi ac ergydion economaidd.
Lleolir Uned Ymchwil i Economi Cymru (WERU) o fewn Ysgol Fusnes Caerdydd ym Mhrifysgol
Caerdydd ac mae ganddi gryn brofiad o ddarparu gwasanaethau ymchwil ac ymgynghori i
sefydliadau yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Un o themâu pwysig ymchwil ddiweddar
WERU fu asesiadau economaidd ac adroddiadau ar sectorau diwydiant (cyfryngau, treftadaeth
a diwylliant, twristiaeth, dur a glo, a mathau eraill o ynni). Mae WERU wedi llunio tablau
Mewnbwn-Allbwn ar gyfer Cymru. Mae'r tablau hyn yn rhoi'r darlun mwyaf cynhwysfawr a
chadarn sydd ar gael o economi Cymru, gan nodi llif nwyddau a gwasanaethau rhwng
diwydiannau, defnyddwyr a llywodraeth a thynnu sylw at y rhyng-gydberthnasau agos rhwng
diwydiannau o fewn economi gyfoes Cymru.
Ynglŷn â’r Adroddiad
Mae’r adroddiad yma yn cael ei ariannu gyda chyfraniadau oddi wrth:
Amegni
Llywodraeth Cymru
Pennant Walters
RenewableUK Cymru
RES
RWE npower renewables
ScottishPower Renewables
SSE Renewables
Tegni Cymru Cyf
Vattenfall
West Coast Energy
5. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
Crynodeb Gweithredol
Diben a Chwmpas yr Adroddiad
i. Cafodd Regeneris Consulting ei benodi gan Renewable UK Cymru, Llywodraeth Cymru a grŵp
o ddatblygwyr ffermydd gwynt i gynnal asesiad o gyfleoedd economaidd datblygiadau gwynt
ar y tir i Gymru. Mae'r astudiaeth wedi cael ei chynnal ar y cyd ag Uned Ymchwil i Economi
Cymru yn Ysgol Fusnes Caerdydd, gyda chyngor gan PMSS Ltd., cwmni ymgynghori ar ynni
adnewyddadwy.
ii. Mae'r asesiad yn cwmpasu cyfanswm y buddsoddiad gan gwmnïau Cymreig a chwmnïau
eraill o'r ffynonellau canlynol:
Gwariant uniongyrchol yng Nghymru drwy weithgynhyrchu cydrannau tyrbinau
gwynt; gwaith cynllunio a datblygu; adeiladu'r safle a'r fferm wynt; gweithrediadau a
chynnal a chadw; a datgomisiynu/ailbweru
Gwariant anuniongyrchol drwy gydrannau cadwyn gyflenwi a ddaw o Gymru a
buddsoddi mewn seilwaith grid
Buddsoddiad wedi'i ysgogi a wneir gan gyflogeion a gefnogir drwy effeithiau
uniongyrchol ac anuniongyrchol
Taliadau buddiannau cymunedol.
iii. Mae'r ffocws gofodol ar Gymru yn ei chyfanrwydd, gydag arwydd o leoliad daearyddol posibl
effeithiau ar bob cam o gylch oes y fferm wynt.
iv. Mae'r astudiaeth yn canolbwyntio ar gyfleoedd economaidd craidd a fyddai'n cael eu creu yn
sgil datblygu'r sector yn y dyfodol. Nid yw'n asesu'r effeithiau amgylcheddol neu
gymdeithasol ehangach.
v. Cynhaliwyd yr astudiaeth gan ddefnyddio'r canlynol:
Adolygiad o'r llenyddiaeth
Dadansoddiad o Gronfa Ddata ffermydd gwynt Renewable UK
Arolwg o ddatblygwyr a gweithredwyr ffermydd gwynt yng Nghymru
Ymgynghoriadau â'r diwydiant, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a
rhanddeiliaid eraill
Gwaith modelu Mewnbwn-Allbwn
Astudiaethau achos.
1
6. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
Trosolwg o'r Sector Ynni Gwynt ar y Tir yng Nghymru
Cyd-destun Polisi
vi. Mae polisi Cymru o ran y sector ynni gwynt ar y tir wedi esblygu dros y blynyddoedd
diwethaf. Rhydd canllawiau cynllunio TAN 8, a gyhoeddwyd yn 2005, ganllawiau ar leoliad
ffermydd gwynt mewn Ardaloedd Chwilio Strategol. Disgwylir mai'r lleoliadau hyn a fydd yn
gartref i'r rhan fwyaf o ffermydd gwynt yn y blynyddoedd i ddod.
vii. Mae'r canllawiau cynllunio diweddaraf yn cyfeirio at y nod i gyflawni cyfanswm o 2,000 MW
o ffermydd gwynt ar y tir erbyn 2025, gyda chryn dipyn o'r gwaith yn cael ei gyflawni erbyn
2020. Dylid nodi mai Arolygiaeth Gynllunio'r DU sy'n penderfynu ar brosiectau uwchlaw 50
MW.
viii. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod buddiannau economaidd-gymdeithasol posibl
datblygu'r sector, a'i phrif nodau yw cyflawni'r buddiannau economaidd hirdymor hyn i'r
graddau mwyaf posibl a sicrhau bod cymunedau lleol yn cael budd o ddatblygiadau seilwaith
ynni.
Datblygu'r Sector: Profiad Blaenorol a Rhagolygon
ix. Ystyriwyd bod TAN 8 wedi ysgogi'r gwaith o ddatblygu'r sector, er mai rhywbeth byrdymor fu
hyn. Dim ond tua chwarter o darged TAN 8 ar gyfer 2010 a gyflawnwyd.
x. Yn ôl cronfa ddata RenewableUK o ffermydd gwynt, mae digon o adnoddau ar y gweill i
gyflawni'r nod o 2,000 MW erbyn 2025: yn ogystal â'r 420 MW sydd eisoes ar waith, mae tua
1,800 MW wedi cael caniatâd neu yn y system gynllunio. Fodd bynnag, mae'n amlwg na
chaiff yr holl brosiectau hyn eu cymeradwyo ac mae rhai, yn wir, yn annibynnol ar ei gilydd.
xi. Rydym wedi ystyried tair sefyllfa ddatblygu ar gyfer y dyfodol (gweler Atodiad A am ragor o
fanylion)
2,000 MW: er mwyn cyflawni'r nod hwn erbyn 2025 byddai angen tua 120 MW arall
bob blwyddyn hyd hynny.
Tueddiadau Hanesyddol: parhau â thueddiadau 2001-11, gan awgrymu y bydd
angen 27 MW arall bob blwyddyn, a chyfanswm o 800 MW erbyn 2025
Tueddiadau Diweddar: parhau â thueddiadau cydsynio mwy diweddar, gan
awgrymu y bydd angen 86 MW arall bob blwyddyn, a chyfanswm o 1,560 MW erbyn
2025.
xii. Modelwn effaith economaidd y sefyllfaoedd hyn yn Adran 4.
Barn y Diwydiant
xiii. Ar y cyfan, mae datblygwyr yn gadarnhaol ynghylch presenoldeb cyflenwyr Cymreig ym
meysydd peirianneg sifil, gwasanaethau amgylcheddol ac ymgynghoriaeth amgylcheddol, ac
mae'r rhan fwyaf yn ymwybodol o'r gwaith gweithgynhyrchu tyrau a geir yng Nghymru (h.y.
Mabey Bridge).
xiv. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn gallu gweld rhywfaint o botensial o leiaf i gynyddu eu
defnydd o gwmnïau ar y camau datblygu ac adeiladu dros y tair blynedd nesaf, gyda thraean
yn nodi cryn botensial. Roedd cyfran lai - ond mwyafrif sylweddol serch hynny - o'r farn y
2
7. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
gellid cynyddu'r defnydd o gwmnïau ym maes gweithrediadau a chynnal a chadw. Roedd
bron hanner yn gweld llawer o botensial.
xv. Nododd datblygwyr amrywiaeth o rwystrau polisi ac economaidd i dyfu'r gadwyn gyflenwi
yng Nghymru, gan gynnwys risgiau ac ansicrwydd sylweddol ynghylch cael caniatâd cynllunio
a chanfyddiad bod diffyg perchenogaeth o ddyheadau cenedlaethol ar lefel leol. Roedd
cyfyngiadau o ran seilwaith (ar y ffyrdd a'r grid) hefyd yn rhwystrau cyffredin.
xvi. Ar y cyfan, mae 40% o'r datblygwyr a arolygwyd o'r farn bod Cymru yn lle eithaf ffafriol neu
ffafriol iawn i fuddsoddi ynddo. Dim ond lleiafrif bach o ymatebwyr sy'n ystyried bod Cymru
yn lle ffafriol iawn (7%). Nododd tua thraean o’r datblygwyr fod Cymru yn lle eithaf anffafriol
neu anffafriol iawn.
xvii. Gan edrych o dan y datganiadau hyn, nid oedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr o'r farn bod y
sylfaen sgiliau yn gyfyngiad ac roedd y rhan fwyaf yn gadarnhaol neu'n niwtral ynghylch
polisi cynllunio Cymru (h.y. TAN 8). Roedd cytundeb clir bod polisïau ac arferion cynllunio
lleol ynghyd â seilwaith grid a ffyrdd yn ffactorau negyddol wrth ystyried Cymru fel lleoliad i
fuddsoddi ynddo o ran prosiectau gwynt ar y tir.
Effeithiau Economaidd i Gymru
Datblygu ac Adeiladu
xviii. Amcangyfrifwn mai £1.13m yw cyfanswm y costau adeiladu cyfartalog fesul MW o gapasiti
wedi'i osod, a chyfanswm y costau datblygu yw £0.12m, ar sail prisiau 2012.
xix. Mae ein hamcangyfrifon yn awgrymu bod disgwyl i 35% o'r holl wariant ar y cam adeiladu
aros yng Nghymru ar gyfartaledd, ynghyd â 71% o'r gwariant cynllunio a datblygu. Ar
gyfartaledd, mae datblygwyr yn disgwyl i ryw dri chwarter y gofyniad am dyrau tyrbinau
ddod o Gymru, gyda Mabey Bridge a chyflenwyr eraill o bosibl yn cyflenwi'r tyrau dur. Er bod
Mabey Bridge mewn sefyllfa i fodloni'r gofyniad hwn, er mwyn sicrhau darbodusrwydd ac
adlewyrchu'r risgiau negyddol o ran y disgwyliad hwn, rydym wedi lleihau'r dybiaeth brynu
hon i 50% at ddibenion modelu. Mae gan Gymru nifer fawr o ddarpar gyflenwyr ym maes
peirianneg sifil hefyd, ynghyd â choedwigaeth a gwasanaethau amgylcheddol.
xx. Gan nad oes gweithgynhyrchydd tyrbinau yng Nghymru, mae'r holl wariant ar dyrbinau
gwynt yn digwydd y tu allan i Gymru. Ni ddisgwyliwn allu denu gweithgynhyrchydd tyrbinau i
Gymru, o ystyried yr adnoddau presennol a geir yn Ewrop a'r arbedion maint a fyddai'n
ofynnol er mwyn llywio'r fath fuddsoddiad.
xxi. Amcangyfrifwn, yn 2005-11, i'r gwaith o gynllunio ac adeiladu prosiectau gwynt ar y tir yng
Nghymru gyfrannu £7.8m mewn GYC a 335 o swyddi cyfwerth ag amser llawn (CALl) bob
blwyddyn ar gyfartaledd. Mae'r effeithiau economaidd o dan ein sefyllfaoedd ar gyfer y
dyfodol fel a ganlyn:
3
8. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
Effeithiau Economaidd y Camau Cynllunio, Datblygu ac Adeiladu i Gymru (cyfartaledd y flwyddyn)
Sefyllfa 2,000 MW Senario Tueddiadau Senario Tueddiadau
Hanesyddol Diweddar
2012-24 2025-50 2012-24 2025-50 2012-24 2025-50
GYC (£m) 38 20 12 6 23 11
Cyflogaeth (CALl) 1,610 820 500 240 810 410
Ffynhonnell: Cyfrifiadau WERU, yn seiliedig ar arolygon datblygwyr a Chronfa Ddata RenewableUK o
ffermydd gwynt.
Noder: Mynegir holl ffigurau GYC ar sail prisiau 2012. Mae'r amcangyfrifon yn cynnwys effeithiau
datgomisiynu/ailbweru.
Gweithrediadau a chynnal a chadw
xxii. Disgwylir i 76% o'r holl wariant yn y cylch cyntaf aros yng Nghymru, gyda'r gwariant hwn
yn cyfateb i £38,600 fesul MW y flwyddyn.
xxiii. Ymhlith yr eitemau mwyaf o wariant mae rhenti tir a thaliadau mynediad, a delir i'r
Comisiwn Coedwigaeth/Llywodraeth Cymru a thirfeddianwyr lleol. Cyfanswm y costau
cyflogaeth uniongyrchol yr eir iddynt gan ddatblygwyr yw £9,800 fesul MW gyda'r rhan
fwyaf yn aros yn economi Cymru. Mae taliadau Buddiannau Cymunedol yn rhan bwysig o
wariant gweithredol i gymunedau lleol a leolir gerllaw ffermydd gwynt a chaiff yr arian ei
wario yn yr ardal leol ar y cyfan.
xxiv. Amcangyfrifwn, rhwng 2005 a 2011, i weithgarwch gweithrediadau a chynnal a chadw
gefnogi £6m o GYC a 210 o swyddi CALl bob blwyddyn ar gyfartaledd. Mae'r effeithiau
economaidd o dan ein sefyllfaoedd ar gyfer y dyfodol fel a ganlyn:
Effeithiau Economaidd y Cam Gweithrediadau a Chynnal a Chadw i Gymru (cyfartaledd y flwyddyn)
Senario 2,000 MW Senario Tueddiadau Senario Tueddiadau
Hanesyddol Diweddar
2012-2024 2025-2050 2012-2024 2025-2050 2012-2024 2025-2050
GYC (£m) 22 37 11 15 14 23
Cyflogaeth (CALl) 720 1,260 370 500 470 770
Ffynhonnell: Cyfrifiadau WERU, yn seiliedig ar arolygon datblygwyr a Chronfa Ddata RenewableUK o
ffermydd gwynt.
Noder: Mynegir holl ffigurau GYC ar sail prisiau 2012.
Effeithiau Economaidd a Ragwelir
xxv. Dros y cyfnod asesu llawn, sef 2012-2050, gallai Cymru sicrhau cyfanswm o £2.3bn mewn
GYC, ar yr amod bod 2,000 MW o gapasiti wedi'i osod yn cael ei gyflawni erbyn 2025.
Byddai hyn yn cyfateb i:
£1.4bn yn fwy mewn GYC na phetai tueddiadau hanesyddol yn parhau
£0.9bn yn fwy mewn GYC na phetai cyfraddau cydsynio mwy diweddar yn parhau.
4
9. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
Effeithiau Economaidd y Camau Datblygu, Adeiladu a Gweithrediadau a Chynnal a Chadw i Gymru
(cyfartaledd y flwyddyn)
Senario 2,000 MW Senario Tueddiadau Senario Tueddiadau
Hanesyddol Diweddar
2012-2024 2025-2050 2012-2024 2025-2050 2012-2024 2025-2050
GYC (£m) 60 57 23 21 36 34
Cyflogaeth (CALl) 2,330 2,080 870 740 1,280 1,180
Ffynhonnell: Cyfrifiadau WERU, yn seiliedig ar arolygon datblygwyr a Chronfa Ddata RenewableUK o
ffermydd gwynt.
Noder: Mynegir holl ffigurau GYC ar sail prisiau 2012. Mae'r amcangyfrifon yn cynnwys effeithiau
datgomisiynu/ailbweru.
xxvi. Byddai'r rhan fwyaf o'r effaith hon yn y senario 2,000 MW i'w gweld mewn gweithgareddau
adeiladu, gyda gweithgynhyrchu (yn arbennig dur) hefyd ar ei ennill. Amcangyfrifir y bydd
nifer y swyddi mewn gwasanaethau preifat yn cynyddu bron 300 o swyddi CALl y flwyddyn
hyd at 2025 a bron 400 ar ôl hynny, tra y bydd gwasanaethau proffesiynol ac ariannol (sy'n
canolbwyntio ar weithgareddau cynllunio a pheirianneg yma) yn cynyddu tua 300 o swyddi
bob blwyddyn hyd at 2050.
xxvii. Byddai'r buddsoddiad mewn Seilwaith Grid a fyddai'n ofynnol er mwyn cefnogi'r gwaith o
leoli tyrbinau gwynt yn y Canolbarth hefyd o fudd economaidd. Yn dibynnu ar y datrysiad
terfynol (uwchben neu dan ddaear), amcangyfrifwn y byddai'r buddsoddiad hwn yn cefnogi
rhwng £11m a £57m mewn GYC a 360-1,950 o flynyddoedd gwaith pobl yng Nghymru.
Cwmpas i Sicrhau'r Buddiannau Mwyaf i Gymru
xxviii. Yn seiliedig ar asesiad o adnoddau presennol ar yr ochr gyflenwi a buddiannau economaidd
ymylol newidiadau mewn systemau prynu, gallai camau i gadw mwy o wariant yng Nghymru
ar gyfer amrywiaeth o sectorau arwain at £7.3m ychwanegol o GYC a 250 ychwanegol o
swyddi CALl y flwyddyn yn y senario 2,000 MW rhwng 2012 a 2024 - gweler y tabl isod. I'r
gwrthwyneb, mae'r tabl hefyd yn dangos effaith sefyllfa lle byddai llai o brynu o Gymru na'r
disgwyl.
xxix. Mae'n bosibl mai ym meysydd rheoli gwaith adeiladu, gwaith sifil, gwaith trydanol a
chysylltiadau grid y gellid sicrhau'r 'enillion' mwyaf o brynu mwy o Gymru. Byddai cynnydd o
10 pwynt canran mewn lefelau prynu yng Nghymru yn y sector cyfunol hwn yn creu
amcangyfrif o £3.7m yn ychwanegol o GYC a 140 o swyddi CALl y flwyddyn yn y cyfnod 2012-
24 yn y senario 2,000 MW.
xxx. Byddai cynnydd tebyg mewn lefelau prynu yng Nghymru ym maes cynllunio, gwasanaethau
proffesiynol a rheoli prosiectau yn creu £1.6m mewn GYC a 50 o swyddi CALl y flwyddyn.
5
10. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
Effeithiau Economaidd Prynu Mwy o Gymru
% a gaiff ei Cynnydd o 10 pwynt canran mewn
phrynu o Lefelau Prynu Lleol
Gymru ar hyn Fesul MW Effaith Flynyddol
o bryd Ychwanegol yn y
Senario 2,000
MW; 2012-24
GYC Swyddi GYC Swyddi
CALl CALl
Cynllunio, Gwasanaethau Proffesiynol a 71% £10,100 0.3 1.6 50
Rheoli Prosiectau
Adeiladu, Gwaith ar y Tir a Pheirianneg 61% £23,300 0.9 3.7 140
Drydanol
Gweithgynhyrchu 50% £7,000 0.2 1.1 30
Trafnidiaeth, coedwigaeth ac Arall 67% £5,700 0.2 0.9 30
Cynnydd 10 pwynt canran mewn lefelau £46,100 1.5 7.3 250
prynu lleol ar draws pob mewnbwn
Ffynhonnell: Dadansoddiad WERU
Buddiannau Economaidd Lleol
xxxi. Ni fyddai'r cyfleoedd economaidd a amlinellir yn Adran 4 yn cael eu rhannu'n gyfartal ledled
Cymru a byddai rhai o'r buddiannau i'w gweld y tu hwnt i ardal gyfagos y ffermydd gwynt.
Serch hynny, mae cyfleoedd i ardaloedd lleol lle ceir ffermydd gwynt fanteisio ar y
datblygiadau, gan gynnwys:
contractau a enillir gan gwmnïau lleol ar y camau cynllunio, datblygu, adeiladu a
gweithrediadau
cyflogaeth i drigolion lleol drwy'r camau hyn, naill ai'n uniongyrchol neu drwy
gadwyni cyflenwi
gwariant lleol yn y sector manwerthu a'r sector lletygarwch wrth i'r gweithwyr sy'n
ymwneud â'r camau hyn wario eu hincwm yn yr economi leol
y buddiannau economaidd ehangach i gymunedau lleol, gan gynnwys buddsoddi
mewn seilwaith ffisegol, economaidd a chymunedol lleol a budd ariannol i grwpiau
penodol fel tirfeddianwyr.
xxxii. Gan ddefnyddio astudiaethau achos, mae'r adran hon yn edrych ar y buddiannau hyn a'r hyn
sy'n sail iddynt.
Datblygu ac Adeiladu
xxxiii. Mae gan economïau lleol sydd â nifer dda o gwmnïau adeiladu a gweithgynhyrchu well
siawns o gyfrannu at y gadwyn gyflenwi a chadw gwariant personol gweithwyr adeiladu nad
ydynt yn lleol. Mae ffermydd gwynt sy'n agos at ganolfannau trefol yn debygol o weld mwy o
fudd uniongyrchol a chadwyn gyflenwi. Er enghraifft:
Yng Nghefn Croes, roedd mewnbynnau lleol yn gyfyngedig oherwydd natur wledig yr
ardal a'r ffaith nad oedd contractwyr addas ar gyfer y mathau o fewnbynnau
adeiladu a oedd yn ofynnol.
I'r gwrthwyneb, roedd tua 13% o werth adeiladu cyffredinol fferm wynt Ffynnon
Oer, a leolir yng Nghastell-nedd Port Talbot, o fewn ardal o 30 milltir, gan gynnwys
agregau a gwaith sifil cysylltiedig.
xxxiv. Fodd bynnag, bydd ardaloedd gwledig yn aml mewn sefyllfa dda iawn i gyflenwi rhai mathau
o nwyddau a gwasanaethau, oherwydd bod yr economïau sy'n gysylltiedig â phrynu'r
6
11. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
mewnbynnau hyn o fudd i gyflenwyr lleol a bod sail gyflenwi dda ar gael yn lleol. Mae'r
enghreifftiau yn cynnwys agregau, gwaith sifil anarbenigol, gwasanaethau coedwigaeth a
thirlunio.
xxxv. Mae contractau adeiladu mwy o faint a gweithgareddau mwy arbenigol yn aml yn gofyn i'r
sawl sy'n cyflwyno tendr gyrraedd safonau penodol a chaiff cwmnïau mwy o faint, sydd â'r
profiad, y gweithdrefnau rheoli a'r arbedion maint angenrheidiol, eu ffafrio. Felly, caiff llawer
o'r prif gontractau ac is-gontractau haen gyntaf mawr eu rhoi i gwmnïau y tu allan i Gymru.
Mae'r rhan fwyaf o'r gwerth a sicrheir gan gwmnïau o Gymru yn dueddol o fod yn haenau is
y gadwyn gyflenwi (ail haen ac is).
xxxvi. Mae'r cam adeiladu o fudd i economïau lleol gwledig sy'n seiliedig ar wasanaethau gan eu
bod yn darparu gwasanaethau i'r contractwyr a gaiff eu lleoli yno dros dro, megis
lletygarwch a manwerthu. Er enghraifft, yng Nghefn Croes, roedd llawer o weithwyr
adeiladu, yn cynnwys Jones Brothers, wedi'u lleoli ar y safle am flwyddyn gyfan bron.
xxxvii. Mae gallu economïau lleol i gael budd o'r gwariant personol hwn a gaiff ei ysgogi yn dibynnu
ar natur anghysbell y safle adeiladu, argaeledd llety a lletygarwch a siopau cysylltiedig, hyd y
cyfnod adeiladu ac o ba wlad y daw'r prif gyflenwyr cydrannau.
xxxviii. Dywed datblygwyr fod llawer o'r sgiliau sydd eu hangen ym maes adeiladu ffermydd gwynt
(ymchwilwyr safleoedd, peirianwyr sifil, gweithredwyr cyfarpar, gweithgynhyrchwyr
gosodiadau a ffitiadau metal) ar gael yng Nghymru. Serch hynny, mae argaeledd y sgiliau hyn
a'r farchnad lafur yn amrywio o un lleoliad i'r llall yng Nghymru.
xxxix. Os yw sgiliau'n brin ar hyn o bryd, gellir mynd i'r afael â hyn drwy wneud ymdrech briodol i
uwchsgilio gweithwyr, a bod digon o amser i gynllunio ar gyfer hynny. Er enghraifft, mae
Vattenfall wedi sefydlu partneriaeth â busnes peirianneg lleol (ISO Feb Ltd) er mwyn
cyflwyno cynllun prentisiaeth tair blynedd i hyfforddi technegwyr tyrbinau gwynt ar gyfer
Pen-y-Cymoedd.
xl. O ystyried yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, mae llawer mwy o weithwyr ar gael yn
gyffredinol nag ar adegau mwy ffyniannus i fodloni unrhyw gynnydd mewn galw, gan olygu y
bydd cyfraddau dadleoli yn isel iawn yn nodweddiadol.
xli. Gall y datblygwr ddylanwadu ar y prif gontractwr i wneud cymaint o ddefnydd â phosibl o
gyflenwyr lleol yn ei gadwyn gyflenwi. Er enghraifft, cynhaliwyd digwyddiadau Cwrdd â'r
Prynwr ar gyfer contractau Pen-y-Cymoedd gyda darpar brif gontractwyr a darpar is-
gontractwyr lleol yn bresennol ill dau, gan olygu eu bod yn gallu trafod â'i gilydd er mwyn
deall gofynion y naill a'r llall. Hefyd, defnyddiodd Vattenfall gyflenwyr lleol fel maen prawf
wrth gaffael prif gontractwyr, ynghyd â monitro'r defnydd o gwmnïau lleol gan y contractwyr
hyn bob mis.
xlii. Yn dilyn hynny, datblygodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot becyn cymorth
cadwyn gyflenwi, a ariannwyd ganddo ef ei hun a Llywodraeth Cymru. Defnyddiwyd yr arian
i helpu busnesau lleol i ddatblygu ymhellach y sgiliau a'r adnoddau angenrheidiol er mwyn
gweithio yn y sector ynni adnewyddadwy, o hyfforddiant a gweithdai i gymorth un i un
uniongyrchol a fydd yn galluogi busnesau lleol i baratoi ar gyfer y prosiect.
xliii. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r fath gamau yn debygol o fod wedi dod yn fwyfwy
cyffredin.
Gweithrediadau a chynnal a chadw
xliv. Gall ardaloedd gwledig gael mwy o fudd o gyfleoedd ar y cam Gweithrediadau a Chynnal a
7
12. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
Chadw. Mae cynlluniau mwy o faint yn dueddol o fod angen mwy o weithwyr ar lawr gwlad
yn barhaol. Er enghraifft, dim ond dwy neu dair wythnos o gynnal a chadw y flwyddyn sydd
ei angen ar Wern Ddu, sef fferm wynt 9.2 MW. I'r gwrthwyneb, mae angen pedwar
gweithiwr gweithrediadau a chynnal a chadw CALl ar Gefn Croes a disgwylir y bydd angen 12
o weithwyr CALl ar Ben-y-Cymoedd, gyda 90% o'r rhain yn weithwyr lleol.
xlv. Mae'r gwaith o gynnal a chadw ffermydd gwynt yn aml yn rhan o gontract gweithgynhyrchu
tyrbinau am gyfnod gwarant penodol. Gan fod contractau tyrbinau fel arfer yn cael eu rhoi i
gwmnïau tramor, caiff y gwaith cynnal a chadw ei gyflawni gan gwmnïau y tu allan i'r DU yn
aml. Mae'r graddau y gall cwmnïau a chyflogeion lleol gael budd o'r gwaith hwn yn dibynnu
ar y cydbwysedd rhwng defnydd gweithgynhyrchwyr o dimau lleol a'u defnydd o'u
gweithwyr eu hunain.
xlvi. Lle y caiff gweithgareddau eu gosod ar gontract allanol ar ôl i'r warant ddod i ben, gwneir
hyn weithiau drwy gontract unigol sy'n cwmpasu'r holl weithgareddau Gweithrediadau a
Chynnal a Chadw, sy'n cynnig cyfleoedd posibl i gwmnïau lleol gael budd drwy ddefnyddio
cytundeb fframwaith contractwyr lleol y gall y prif gontractwr Gweithrediadau a Chynnal a
Chadw ei ddefnyddio lle y bo angen. Cyflawnwyd hyn o amgylch safleoedd ffermydd gwynt
amrywiol yng Nghymru drwy gynnal diwrnodau agored i gwmnïau lleol er mwyn tynnu sylw
at y cyfleoedd posibl yn y gadwyn gyflenwi a helpu cyflenwyr lleol i gael eu hachredu ar gyfer
y fferm wynt.
xlvii. Pan fydd datblygwyr yn dewis cyflawni'r gwaith cynnal a chadw'n fewnol, mae cyfleoedd
lleol yn rhannol ddibynnol ar ddull y datblygwr o reoli ei bortffolio o gynlluniau ffermydd
gwynt ledled Cymru. Efallai y bydd gan ddatblygwyr mwy o faint bortffolio o ffermydd gwynt
yng Nghymru ac y byddant yn dewis canoli gweithrediadau a chynnal a chadw'r ffermydd
gwynt hyn a rhannu cyfrifoldeb ymhlith staff presennol, yn arbennig ar gyfer cynlluniau llai o
faint.
xlviii. Mae cyfran gymharol fach o gyfarpar a darnau sbâr yn dueddol o ddod o Gymru, gan fod
hyn, ar y cyfan, yn cysylltu â'r man lle y caiff tyrbinau a chydrannau eu gweithgynhyrchu.
Fodd bynnag, mae llawer mwy o gwmpas i wasanaethau amgylcheddol a choedwigaeth
ddod o ardaloedd lleol o ystyried presenoldeb y sgiliau hyn, yn arbennig mewn ardaloedd
gwledig. Mae lle hefyd i fuddiannau sydd wedi'u hysgogi gael eu sicrhau'n lleol o fewn y
sector lletygarwch lle mae angen i staff cynnal a chadw aros yn lleol.
Buddiannau Ehangach
xlix. Mae Cronfeydd Buddiannau Cymunedol yn cynnig cryn botensial i sicrhau effeithiau
cadarnhaol i gymunedau lleol. Yn wir, y cronfeydd hyn yw prif ffynhonnell buddiannau lleol
tymor hwy i gymunedau yn sgil ffermydd gwynt.
l. Mae cysylltiad agos rhwng maint taliadau a maint y fferm wynt. Ar gyfer cynlluniau mwy o
faint, mae hyn yn golygu bod buddiannau parhaus sylweddol yn bosibl. O blith yr
astudiaethau achos, roedd lefel flynyddol y taliad buddiannau cymunedol yn amrywio o
£10,000 ar gyfer Wern Ddu (cynllun 9.2 MW) i £1.8 miliwn disgwyliedig ar gyfer Pen-y-
Cymoedd (cynllun 256 MW).
li. Fel rheol, mae datblygwyr yn awyddus iawn i sicrhau bod cymunedau lleol yn chwarae rhan
lawn yn y broses o gynllunio, cyflawni a rheoli'r Cronfeydd gan ei bod yn bwysig eu bod yn
perchenogi'r arian. Yn gyffredinol, bydd datblygwyr yn dirprwyo'r cyfrifoldeb am y Cronfeydd
Buddiannau Cymunedol, er y gallant gynnig cyngor ar faterion gweinyddol.
lii. Yn achos Pen-y-Cymoedd, er enghraifft, mae'r gronfa arfaethedig sy'n werth £1.8m y
8
13. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
flwyddyn yn amlwg yn fawr iawn a gallai fod o fudd economaidd-gymdeithasol sylweddol yn
lleol.
liii. Mae rhai datblygiadau mwy o faint hefyd yn cynnwys cronfa datblygu economaidd
benodedig ochr yn ochr â'r gronfa buddiannau cymunedol. Er enghraifft, mae RWE npower
renewables yn cynnig gwneud hyn ar gyfer ei ffermydd gwynt arfaethedig ym Mrechfa a
Chlocaenog. Ar gyfer Clocaenog, cynigir cronfa Datblygu Economaidd £3,000 fesul MW ochr
yn ochr â'r gronfa buddiannau cymunedol £5,000 fesul MW (gyda'r ddwy yn gysylltiedig â
mynegeion).
liv. Mae datblygiadau ffermydd gwynt yn aml yn cynnwys buddsoddiadau mewn gwelliannau
amgylcheddol fel rhan o'r pecyn gwaith seilwaith. Er enghraifft, yn Ffynnon Oer mae'r
datblygwr wedi noddi gwelliannau i Lwybrau Beicio Mynydd Afan, sy'n atyniad pwysig i
dwristiaid yng Nghwm Afan.
lv. Un o’r buddiannau pwysig i economïau gwledig lleol sy’n gartref i ffermydd gwynt yw’r
taliadau a wneir i dirfeddianwyr lleol lle mae’r ffermydd gwynt wedi eu lleoli. Yng Nghymru,
mae ffermydd gwynt naill ai wedi'u lleoli ar dir Comisiwn Coedwigaeth Cymru, tir fferm
preifat neu dir comin ar adegau. Fel rheol, bydd datblygwyr yn negodi taliad rhent blynyddol
am gael mynediad i'r tir. Mae'r taliad a gaiff ei negodi yn amrywio wrth gwrs yn dibynnu ar
faint o dir sydd dan sylw a'r gwerth a negodir. Mae ein harolwg yn awgrymu £12,000 fesul
MW y flwyddyn ar gyfartaledd ar gyfer pob ymatebydd.
Casgliadau
lvi. Mae ein dadansoddiad wedi tanlinellu'r ffaith bod buddiannau economaidd sylweddol a
chyson yn bosibl i Gymru yn sgil datblygu a gweithredu ffermydd gwynt ar y tir. Petai 2,000
MW wedi'i ddatblygu erbyn 2025 a phetai Cymru yn llwyddo i sicrhau ei chyfran
ddisgwyliedig o fuddsoddiad ac wedi ymbaratoi ar gyfer hynny, gellid sicrhau £2.3 biliwn o
GYC rhwng 2012 a 2050 ynghyd â thros 2,000 o swyddi cyfwerth ag amser llawn y flwyddyn
ar gyfartaledd yn yr un cyfnod. Er y gallai’r sector adeiladu a'r sector gweithgynhyrchu gael
budd penodol yn sgil y gweithgarwch hwn, byddai'r buddiannau yn gallu cael eu rhannu gan
amrywiaeth o sectorau, o ganlyniad i effeithiau'r gadwyn gyflenwi a gwariant defnyddwyr
cyflogeion y cefnogir eu swyddi gan y sector.
lvii. Mae risgiau negyddol i gyflawni'r buddiannau hyn.
Petai'r gwaith datblygu yn arafu, byddai llai o fuddsoddiad yng Nghymru ac, o
ganlyniad, lai o swyddi a llai o GYC. Byddai parhau â thueddiadau hanesyddol yn
gweld GVA o tua £1.4 biliwn yn llai na phetai 2,000 MW yn cael ei ddatblygu, a dim
ond tua thraean o'r swyddi. Gallai parhau â thueddiadau mwy diweddar olygu bod
£0.9 biliwn yn llai o GYC a thua 1,000 yn llai o swyddi bob blwyddyn. Mae ein
hymchwil wedi tynnu sylw at nifer o rwystrau i gyflawni gwaith datblygu, gan
gynnwys materion cynllunio lleol a chyfyngiadau o ran seilwaith grid a ffyrdd.
At hynny, petai 2,000 MW yn cael ei gyflawni, byddai dal angen bod yn rhagweithiol
o hyd er mwyn sicrhau bod y buddiannau posibl a amlinellwyd uchod yn cael eu
gwireddu. Mae'r dadansoddiad yn adran 4 wedi nodi'r canlyniadau petai'r
buddsoddiad yng Nghymru islaw disgwyliadau.
lviii. Mae ein hargymhellion yn Adran 6 yn ystyried rhai o’r opsiynau sydd ar gael o ran sicrhau’r
buddiannau mwyaf posibl, canolbwyntio ar y system gynllunio, ei gwneud yn bosibl i
ddatblygu seilwaith, y gadwyn gyflenwi a’r sector, taliadau buddiannau cymunedol a
buddiannau lleol.
9
14. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
1. Cyflwyniad
1.1 Cafodd Regeneris Consulting ei benodi gan Renewable UK Cymru, Llywodraeth Cymru a grŵp
o ddatblygwyr ffermydd gwynt i gynnal asesiad o gyfleoedd economaidd datblygiadau gwynt
ar y tir i Gymru yn y dyfodol. Mae'r astudiaeth wedi cael ei chynnal ar y cyd ag Uned Ymchwil
i Economi Cymru yn Ysgol Fusnes Caerdydd, gyda chyngor gan PMSS Ltd, cwmni cynghori ar
ynni adnewyddadwy.
1.2 Prif ddiben yr adroddiad yw mesur effaith economaidd buddsoddi mewn ynni gwynt ar y tir
ar yr economi yng Nghymru, ar sail lefelau gweithgarwch economaidd presennol a phosibl ar
wahanol gamau cylch oes prosiect gwynt.
1.3 O fewn y nod cyffredinol hwn, mae cwmpas y gwaith dadansoddi fel a ganlyn:
Mae'r dadansoddiad yn cwmpasu'r cyfnod rhwng 2005 a 2050, gan ddefnyddio
ffigurau sylfaenol fel y'u darparwyd gan y diwydiant, a senarios ar gyfer capasiti
wedi'i osod yng Nghymru y cytunwyd arnynt gan y diwydiant a Llywodraeth Cymru.
Dewiswyd 2050 yn ben llanw am ei fod yn cwmpasu cylch oes gweithredol
disgwyliedig tyrbinau a ffermydd gwynt sydd ar waith ar hyn o bryd neu sydd yn yr
arfaeth.
Mae'r asesiad yn cwmpasu cyfanswm y buddsoddiad gan gwmnïau Cymreig a
chwmnïau eraill o'r ffynonellau canlynol:
Gwariant uniongyrchol yng Nghymru drwy weithgynhyrchu cydrannau
tyrbinau gwynt; gwaith cynllunio a datblygu; adeiladu'r safle a'r fferm wynt;
gweithrediadau a chynnal a chadw; a datgomisiynu/ailbweru
Gwariant anuniongyrchol drwy gydrannau cadwyn gyflenwi a ddaw o Gymru
a buddsoddi mewn seilwaith grid
Buddsoddiad wedi'i ysgogi a wneir gan gyflogeion a gefnogir drwy effeithiau
uniongyrchol ac anuniongyrchol
Taliadau Buddiannau Cymunedol.
Mae ffocws gofodol yr asesiad ar Gymru yn ei chyfanrwydd, gydag arwydd o leoliad
daearyddol posibl effeithiau ar bob cam o gylch oes y fferm wynt.
Y dangosyddion allweddol a ddefnyddir o ran effaith yw Gwerth Ychwanegol
Crynswth a Swyddi Cyfwerth ag Amser Llawn (CALl).
1.4 Mae'r astudiaeth yn canolbwyntio ar gyfleoedd economaidd craidd a fyddai'n cael eu creu yn
sgil datblygu'r sector yn y dyfodol. Nid yw'n asesu'r effeithiau amgylcheddol neu
gymdeithasol ehangach.
1.5 Caiff gweddill yr adroddiad ei strwythuro fel a ganlyn:
Adran 2: gwybodaeth fanwl am y dull asesu, gan gynnwys y fframwaith effaith
economaidd a'r dulliau ymchwil a ddefnyddiwyd
10
15. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
Adran 3: trosolwg o'r sector ynni gwynt ar y tir yng Nghymru, gan gynnwys y cyd-
destun polisi, datblygiad y sector hyd yma, a chanfyddiadau'r diwydiant o Gymru fel
lleoliad ar gyfer datblygu gwynt ar y tir
Adran 4: canlyniadau'r gwaith modelu effaith economaidd
Adran 5: trafodaeth am effeithiau economaidd lleol posibl ffermydd gwynt ar y tir
yng Nghymru
Adran 6: ein casgliadau a'n hargymhellion.
Atodiad A - manylion y fethodoleg a ddefnyddiwyd
Atodiad B - holiadur yr arolwg a anfonwyd at ddatblygwyr a gweithredwyr ffermydd
gwynt ar y tir yng Nghymru
Atodiad C - crynhoi'r sefydliadau yr ymgynghorwyd â hwy fel rhan o'r astudiaeth.
Atodiad D - pedair astudiaeth achos ffermydd gwynt yng Nghymru.
11
16. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
2. Trosolwg o'r Dull Asesu
2.1 Yn yr adran hon, nodwn yn fanwl y dull a ddefnyddiwyd i fesur y cyfleoedd economaidd sy'n
deillio o ddatblygu gwynt ar y tir. Cwmpesir y fframwaith effaith economaidd a'r ymchwil a
ddefnyddiwyd.
Fframwaith Effaith Economaidd
2.2 Wrth wraidd yr asesiad, mae model economaidd sy'n anelu at nodi effeithiau economaidd
tebygol datblygu gwynt ar y tir yng Nghymru, wedi'i lywio gan senarios ar gyfer cyfraddau
datblygu a chadw'r gwariant cysylltiedig yng Nghymru.
Ffynonellau Effaith
2.3 Mae'r broses o ddatblygu a gweithredu fferm wynt ar y tir yn un gymhleth a hir yn aml sy'n
cynnwys sawl cam penodol. Mae'r holl gamau hyn yn esgor ar weithgarwch economaidd
drwy fuddsoddiadau cyfalaf a gwariant gweithredol:
1) Adeiladu a gosod y fferm wynt ynghyd â gweithgarwch cadwyn gyflenwi
cysylltiedig. Mae'r buddsoddiad a wneir yn y gwaith cynllunio a datblygu, paratoi'r
safle, gweithgynhyrchu a gosod, a chomisiynu tyrbinau gwynt o fudd uniongyrchol i'r
busnesau sy'n cyflawni'r gweithgarwch hwn yn ogystal â'u cyflenwyr gan fod y
gweithgarwch economaidd ychwanegol yn bwydo drwy'r gadwyn gyflenwi. Mae'r
asesiad yn ystyried graddau posibl buddiannau ar y cam adeiladu yn sgil maint a
lleoliad daearyddol disgwyliedig cadwyn gyflenwi'r datblygiad, y potensial i gwmnïau
lleol (neu gwmnïau â gweithrediadau lleol) ennill y prif gontractau neu ymuno â
chadwyn gyflenwi'r sawl sy'n gwneud hynny.
2) Gweithrediadau a chynnal a chadw parhaus. Mae'r staff sydd eu hangen i
weithredu a chynnal a chadw'r fferm wynt (gan gynnwys y rheini mewn rolau
gweinyddol a chymorth) a'r gwariant sydd ei angen ar gyfer gorbenion eraill (e.e.
cost cydrannau sbâr, cysylltu â'r grid a gwasanaethau ac ymrwymiadau cymorth
eraill) yn cynnig ffynhonnell effaith economaidd ychwanegol a thymor hwy. Unwaith
eto, mae'r budd posibl yn gysylltiedig â graddau'r buddsoddiad, o ble y daw
nwyddau a gwasanaethau, lleoliad unrhyw swyddi newydd a gaiff eu creu a'r
cwmpas i recriwtio staff lleol. Nid yw'r asesiad o effaith gweithrediadau a chynnal a
chadw yn cynnwys yr effaith economaidd sy'n gysylltiedig â thrawsyrru a gwerthu'r
trydan a gaiff ei gynhyrchu gan y cynllun.
3) Effaith taliadau buddiannau cymunedol. Gall datblygwyr ddewis gwneud
cyfraniadau blynyddol gwirfoddol i gymunedau lleol yn ystod cylch oes fferm wynt.
Gall cymunedau lleol ddefnyddio'r arian hwn mewn sawl ffordd felly gall y math o
fuddiannau a'u graddau amrywio'n sylweddol. Mae'r asesiad yn ystyried effeithiau
posibl y taliadau hyn.
4) Effaith datgomisiynu neu ailbweru. Mae cost datgomisiynu neu ddisodli cydrannau
er mwyn ailbweru'r fferm wynt ar ddiwedd ei chyfnod gweithredol yn esgor ar
effeithiau economaidd pellach mewn ffyrdd tebyg i'r buddsoddiad adeiladu
cychwynnol, drwy roi refeniw i'r cwmnïau yn y gadwyn gyflenwi a chefnogi swyddi.
12
17. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
2.4 Mae pob fferm wynt ar y tir a gaiff ei datblygu yng Nghymru yn cynnig yr effeithiau
economaidd hyn ac, felly, hwb i economi Cymru. At hynny, er mwyn cyflwyno graddau'r
datblygiadau gwynt ar y tir a seilwaith ynni adnewyddadwy arall a ragwelir ar gyfer Cymru,
bydd angen gwneud buddsoddiad sylweddol mewn seilwaith grid yn y Canolbarth. Byddai'r
fath ddatblygu seilwaith yn esgor ar amrywiaeth o effeithiau economaidd i Gymru o
ganlyniad i'r gwaith cynllunio, datblygu, adeiladu a chynnal a chadw a fyddai'n ofynnol.
Ystyrir hyn yn effaith economaidd ar wahân, sy'n berthnasol i bob senario.
2.5 Mae'n werth nodi y gallai diwydiant Cymru hefyd ennill busnes mewn marchnadoedd gwynt
ar y tir ehangach sy'n deillio o ddatblygu'r diwydiant yng ngweddill y DU ac yn wir dramor.
Nid yw'r effeithiau posibl hyn yn rhan o'r astudiaeth hon. Y prif reswm dros hyn yw'r ffaith ei
bod hi'n anodd rhoi amcangyfrif pendant o raddau'r marchnadoedd hyn dros amser a'r
gyfran o'r farchnad y gallai cwmnïau Cymreig ei sicrhau. At hynny, daw'r hwb mwyaf i
ddatblygu'r gadwyn gyflenwi yng Nghymru o ddatblygu'r sector yn y farchnad ddomestig.
Mathau o Effaith
2.6 Mae'r asesiad yn ystyried y buddiannau economaidd craidd sy'n gysylltiedig â mwy o
weithgarwch economaidd yn yr ardal yn ogystal â'r buddiannau economaidd-gymdeithasol
ehangach a allai ddeillio o ddatblygu fferm wynt. Mae'r buddiannau economaidd craidd wedi
cael eu hasesu'n feintiol drwy fodel effaith economaidd sy'n amcangyfrif y canlynol:
Effeithiau Uniongyrchol. Mae'r mesur hwn yn nodi'r gweithgarwch economaidd a
gaiff ei gefnogi'n uniongyrchol drwy adeiladu, gweithredu a chynnal a chadw'r fferm
wynt. Mae'n cwmpasu staff uniongyrchol a gyflogir ar y safle a'r holl wariant cadwyn
gyflenwi haen gyntaf sy'n ymwneud ag adeiladu'r fferm wynt.
Effeithiau Anuniongyrchol. Mae'r mesur hwn yn nodi effaith cadwyn gyflenwi'r
allbwn ychwanegol a gaiff ei greu gan gwmnïau yn y gadwyn gyflenwi sy'n cefnogi
cyflenwyr haen un.1 Caiff y gweithgarwch economaidd ychwanegol o fewn y
cwmnïau hyn ei fwydo i lawr eu cadwyni cyflenwi ac mae'n esgor ar fuddiannau
anuniongyrchol, ychwanegol i lawer o gwmnïau eraill.
Wedi'u Hysgogi. Mae'r mesur hwn yn nodi'r buddiannau dilynol a welir yn sgil y
swyddi ychwanegol a gefnogir yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol yn yr economi
wrth i gyflogau, a gaiff eu hennill gan y sawl a gyflogir mewn swyddi ychwanegol,
gael eu gwario ar nwyddau a gwasanaethau mewn rhannau eraill o'r economi.
2.7 Mae buddiannau economaidd ehangach yn gysylltiedig â datblygu'r diwydiant yng Nghymru,
gan gynnwys:
Incwm i dirfeddianwyr. Mae ffermydd gwynt ar y tir yn dueddol o gael eu lleoli ar dir
y Comisiwn Coedwigaeth neu ar dir fferm preifat. Caiff y tirfeddianwyr hyn daliadau
cyfalaf a/neu daliadau rhent gan ddatblygwyr/gweithredwyr ffermydd gwynt yn
gyfnewid am gael mynediad i'r tir hwn.
1
Mae cyflenwyr Haen Un ar frig y gadwyn gyflenwi ac maent yn cyflenwi'n uniongyrchol i'r Prif Gontractwr.
13
18. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
Ardrethi Busnes. Mae datblygwyr a gweithredwyr ffermydd gwynt yn talu ardrethi
busnes, sydd yna'n cael eu talu i mewn i Gronfa Ardrethi Annomestig Llywodraeth
Cymru a'u hailddosbarthu ymhlith awdurdodau lleol (ar sail pro-rata i'r boblogaeth
oedolion) fel rhan o setliad refeniw llywodraeth leol bob blwyddyn.
2.8 Ystyriwn y buddiannau hyn ochr yn ochr â'r effeithiau economaidd craidd.
2.9 Y tu hwnt i'r buddiannau economaidd meintiol hyn, mae gan ddatblygiadau gwynt ar y tir y
potensial i gyflawni amrywiaeth o fuddiannau economaidd-gymdeithasol ehangach, gan
gynnwys:
Rhoi hwb i sectorau ynni adnewyddadwy lleol a chenedlaethol. Gallai'r cyfle
cynyddol sy'n gysylltiedig â phrosiectau ynni gwynt ar y tir arfaethedig yng Nghymru
yn y tymor canolig fod o fudd parhaol drwy ysgogi mwy o adnoddau yn y sector (e.e.
wrth i gwmnïau newydd gael eu sefydlu neu wrth i gwmnïau arallgyfeirio a chyflawni
gweithgareddau ynni adnewyddadwy eraill er mwyn achub ar gyfleoedd newydd) a
sicrhau bod cwmnïau lleol mewn sefyllfa i achub ar gyfleoedd yn y sector yn y
dyfodol.
Y cwmpas ar gyfer effeithiau marchnad lafur sy'n gysylltiedig â'r cyfleoedd gwaith
newydd. Gellid cyflawni gweithgarwch meithrin sgiliau, er enghraifft, o ganlyniad i'r
cynllun fel bod modd i bobl gael eu hyfforddi er mwyn eu helpu i achub ar gyfleoedd
sy'n deillio o'r datblygiad. Byddai'r adnoddau ychwanegol a ddatblygwyd o fewn
darparwyr hyfforddiant lleol o ganlyniad i hyn yn ategu gweithgarwch meithrin
sgiliau pellach.
2.10 Ystyrir yr effeithiau o ran economïau lleol ar wahân yn Adran 5 o'r adroddiad.
Mesur Effaith
2.11 Mae'r asesiad yn defnyddio dau fesur allweddol er mwyn mesur natur a graddau effeithiau
economaidd datblygiadau gwynt ar y tir:
Gwerth Ychwanegol Crynswth (GYC). GYC yw'r mesur cyffredin o ran creu cyfoeth ar
gyfer economi. Dyma'r hyn sydd ar ôl o allbwn crynswth unwaith y telir am nwyddau
a gwasanaethau a brynwyd. Mae'r allbwn hwn sy'n weddill yna ar gael i'w
ddosbarthu fel elw, tâl a chyflogau a chostau buddsoddi cyfalaf.
Cyflogaeth. Dyma nifer y swyddi a gaiff eu creu yng Nghymru. Fe'u mynegir fel
swyddi Cyfwerth ag Amser Llawn, sy'n trosi swyddi rhan-amser a llawn-amser yn
fesur cyffredin (lle mae un swydd ran-amser yn cyfateb i hanner swydd lawn-amser),
ac, ar gyfer effeithiau adeiladu dros dro, fel blynyddoedd gwaith pobl.
Cyfnod Amser
2.12 Mae'r asesiad yn cwmpasu'r cyfnod rhwng 2005 a 2050. Mae rhesymeg glir dros ddewis y
cyfnod hwn: mae'n cwmpasu cylch oes gweithredol y rhan fwyaf o gynlluniau sydd naill ai ar
waith ar hyn o bryd neu yn yr arfaeth (ym maes adeiladu, wedi cael cydsyniad ac wedi'u
cyflwyno i'r awdurdod cynllunio perthnasol). Bydd y rhan fwyaf o'r ffermydd gwynt sydd yn
yr arfaeth, os cânt eu cymeradwyo, ar waith erbyn 2025, ac mae fferm wynt fel arfer yn
weithredol am hyd at 25 mlynedd.
14
19. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
2.13 O fewn y cyfnod hwn, canolbwyntiwn yn arbennig ar ddatblygiad posibl y diwydiant hyd at
2025 fel cyfnod polisi. Mae hyn yn cyfateb i amserlenni dyhead Llywodraeth Cymru i
ddatblygu ffermydd gwynt ar y tir, yn ogystal â thargedau ehangach yr UE. Ystyriwn y
cyfnodau canlynol:
2005-11;
2012-24;
2025-50
Ffocws Gofodol
2.14 Mae'r astudiaeth yn canolbwyntio ar yr effeithiau i Gymru gyfan. Mae'r astudiaeth hefyd yn
dadansoddi'r effeithiau i ranbarthau Cymru (Gogledd, Canolbarth, De-ddwyrain a De-
orllewin).
2.15 Rydym hefyd yn ystyried y cwmpas i'r ardaloedd lleol lle lleolir y datblygiadau hyn, neu lle
maent yn debygol o gael eu lleoli, gan ganolbwyntio'n arbennig ar gyfleoedd yn y gadwyn
gyflenwi ac o ran swyddi.
Tybiaethau Ategol
2.16 Mae'r model yn defnyddio tybiaethau ar sail y canlynol:
Costau: mae costau nodweddiadol datblygu a gweithredu fferm wynt yn ffactor
allweddol o ran natur a graddau'r effaith economaidd gysylltiedig. Mae'r rhain wedi
cael eu hamcangyfrif drwy arolwg o holl ddatblygwyr a gweithredwyr ffermydd
gwynt ar y tir yng Nghymru (gweler Llinellau ac Adnoddau Ymchwil isod),
ymgynghoriad â'r diwydiant ac adolygiad o asesiadau eraill. Amcangyfrifwyd costau
tebygol seilwaith grid mewn ymgynghoriad â'r Grid Cenedlaethol.
Prynu: mae'r graddau y mae Cymru yn cael budd o'r gwariant hwn yn dibynnu ar
faint o wariant sy'n aros yng Nghymru drwy gwmnïau yng Nghymru sy'n cyflenwi
nwyddau a gwasanaethau fel rhan o'r gadwyn gyflenwi. Amcangyfrifir y lefelau
tebygol o wariant sy'n aros yng Nghymru ar gyfer pob rhan o'r gadwyn gyflenwi gan
ddefnyddio tystiolaeth o'n harolwg o ddatblygwyr ac maent yn destun profion
sensitifrwydd. Amcangyfrifir effeithiau lluosi yn Haen 2 o'r gadwyn gyflenwi ac islaw
hynny gan ddefnyddio tablau Mewnbwn-Allbwn Cymru (gweler Atodiad A am ragor
o fanylion).
Defnydd o Senarios
2.17 Mae'n ddefnyddiol defnyddio senarios er mwyn profi sut y gall effeithiau economaidd newid
mewn ymateb i newidiadau mewn amrywiolion allweddol penodol. Mae ein gwaith modelu
yn profi senarios mewn dwy ffordd:
Datblygu capasiti wedi'i osod. Mae ein model yn defnyddio amcanestyniadau ar
gyfer ffermydd gwynt ar y tir hyd at 2025. Er bod gennym ddarlun cynhwysfawr o'r
adnoddau sydd yn yr arfaeth, mae cryn dipyn o hyn yn y system gynllunio ar hyn o
15
20. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
bryd ac felly nid oes sicrwydd ynghylch pa gynlluniau allai ddatblygu nac ar ba
gyflymdra. Felly, defnyddiwn dri senario ar gyfer datblygu capasiti wedi'i osod:
2,000 MW: cyflawni'r nod o 2,000 MW o gapasiti wedi'i osod erbyn 2025
Tueddiadau Hanesyddol: parhau â thueddiadau'r degawd diwethaf
Tueddiadau Diweddar: Parhau â thueddiadau cydsynio mwy diweddar
Nodir sail y senarios hyn yn fanylach yn Adran 3 ac Atodiad A.
Dod o hyd i gyflenwyr. Defnyddir y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygwyr yng
Nghymru er mwyn pennu amcangyfrifon ar gyfer cadw gwariant yng Nghymru yn ein
model. Gall cyfran y gwariant a gedwir yng Nghymru fod yn fwy neu'n llai na'r lefel
sylfaenol hon, mewn rhai rhannau o'r gadwyn gyflenwi. Profwn hyn yn yr asesiad
effaith.
2.18 Rhoddir crynodeb o'r fframwaith effaith economaidd yn y diagram isod.
Ffigur 2‑1: Fframwaith Effaith Economaidd
Tybiaethau Ardaloedd yr Effeithir
Ffactor Ysgogi Budd Mathau o Fuddiannau Mesurau
Ategol Arnynt
Buddiannau Economaidd Ardaloedd yr effeithir
• Adolygu Cam Datblygu ac Economaidd Craidd • Swyddi CALI arnynt
targedau Cymru Adeiladu • GYC • Cymru
• Cronfa ddata • Uniongyrchol • Rhanbarthau Cymru
Renewable UK • Anuniongyrchol Ehangach
• Dadansoddiad • Wedi’u Cymell • Incwm i
economaidd dirfeddianwyr
rhanbarthol gan Gweithrediadau a Buddiannau • Gwelliannau i
gynnwys cymysgedd Chynnal a Chadw Datblygu Seilwaith
sectoraidd Economaidd/ Lleol
• Adolygiad o Adfywio • Sgiliau
dystiolaeth • Cyflogaeth
effaith • Bywiogrwydd y
Datgomisiynu/ gymuned
• Arolwg o
ailbweru
ddatblygwyr a
gweithredwyr
• Tablau mewnbwn
- allbwn
• Profion a Cronfeydd Buddiannau Buddiannau Datblygu -
mireinio Cymunedol gymdeithasol ehangach
Llinellau ac Adnoddau Ymchwil
2.19 Mae'r ymchwil wedi cael ei chynllunio er mwyn rhoi asesiad annibynnol a chadarn o
effeithiau economaidd ynni gwynt ar y tir hyd at 2050. Fel y cyfryw, dilynwyd nifer o linellau
ymchwil er mwyn creu darlun cynhwysfawr a chywir o'r canlynol:
Senarios posibl o ran datblygu capasiti wedi'i osod y sector yn y dyfodol, yn seiliedig
ar brofiad diweddar a dyheadau Llywodraeth Cymru.
Lefelau tebygol o fuddsoddiad yn gysylltiedig â'r senarios datblygu hyn ar bob cam o
gylch oes y prosiect (cynllunio a datblygu, adeiladu, gweithrediadau a chynnal a
chadw ac ailbweru/datgomisiynu), gan gynnwys seilwaith grid cysylltiedig, yn
seiliedig ar brofiad gwirioneddol hyd yma.
Lefelau realistig o wariant sy'n debygol o aros yng Nghymru a'r ardaloedd lle mae
16
21. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
potensial i gadw mwy o wariant, yn seiliedig ar brofiad gwirioneddol hyd yma ac
asesiad o gapasiti economi Cymru.
Effeithiau lluosogi i Gymru, yn deillio o gylchoedd dilynol o wariant cadwyn gyflenwi
(effeithiau anuniongyrchol) a gwariant defnyddwyr fesul cyflogai (effeithiau wedi'u
cymell).
Effeithiau tebygol ar gymunedau lleol, yn seiliedig ar brofiad hyd yma, a nodi'r
ffactorau allweddol sy'n rhwystro ac yn annog budd economaidd lleol.
Cyfyngiadau a chyfleoedd sy'n gysylltiedig â sicrhau bod y sector yn cael cymaint o
effaith economaidd ar Gymru â phosibl, yn seiliedig ar farn diwydiant a llywodraeth
a dadansoddiad o economi Cymru.
2.20 Yr egwyddor a ddilynwyd fu triongli'r canfyddiadau drwy ddefnyddio ffynonellau data sydd
ar gael a dwyn ynghyd ddata a barn sylfaenol y diwydiant, Llywodraeth Cymru a
rhanddeiliaid lleol. Dengys y tabl isod yr adnoddau ymchwil a ddefnyddiwyd i lywio pob
elfen o'r astudiaeth. Yna, trafodwn yr adnoddau ymchwil yn fanylach isod.
Crynodeb o Elfennau'r Astudiaeth ac Ymchwil
Elfen o'r Astudiaeth Ymchwil/ffynonellau
Senarios ar gyfer Rhydd cronfa ddata RenewableUK fanylion am yr holl ffermydd gwynt
datblygiadau yn y yn y DU sydd ar waith, sy'n cael eu hadeiladu, sydd wedi cael caniatâd,
dyfodol ac sydd yn y system gynllunio, gan gynnwys dyddiadau, capasiti wedi'i
osod a lleoliad.
Ymgynghoriad â datblygwyr ffermydd gwynt a Llywodraeth Cymru.
Buddsoddiad fesul Arolwg o holl ddatblygwyr a gweithredwyr pob fferm wynt yng
cylch oes y prosiect Nghymru sydd ar waith, sy'n cael ei hadeiladu, sydd wedi cael caniatâd,
ac sydd yn y system gynllunio.
Astudiaethau effaith economaidd-gymdeithasol bresennol o ffermydd
2
gwynt ar y tir.
Buddsoddiad yng Arolwg o ddatblygwyr a gweithredwyr
Nghymru fesul sector Astudiaethau effaith economaidd-gymdeithasol bresennol o ffermydd
gwynt ar y tir.
Effeithiau lluosogi ar Gan ddefnyddio'r data ar fuddsoddiadau uchod, defnyddio tablau
gyfer Cymru a'i Mewnbwn-Allbwn ar gyfer Cymru er mwyn amcangyfrif effeithiau
rhanbarthau anuniongyrchol ac effeithiau wedi'u cymell.
Effeithiau ar Pedair astudiaeth achos ar ffermydd gwynt ar y tir sydd eisoes yn bodoli
gymunedau lleol ac sydd yn yr arfaeth
Wedi'u llywio gan ymgynghoriadau â datblygwyr, gweithredwyr ac
awdurdodau lleol ac adolygu dogfennaeth, a phrofiad y tîm.
Cyfyngiadau a Arolwg o ddatblygwyr ffermydd gwynt
chyfleoedd Ymgynghoriad â datblygwyr, Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr
llywodraeth leol.
Adolygu Llenyddiaeth
2.21 Gwnaethom adolygu'r llenyddiaeth ar yr agweddau economaidd ar ynni gwynt ar y tir, gan
gynnwys dogfennau polisi perthnasol ac asesiad economaidd-gymdeithasol bresennol o
2
Er enghraifft, Onshore Wind Direct and Wider Economic Impacts, BiGGAR Economics ar ran RenewableUK a'r Adran Ynni a
Newid yn yr Hinsawdd (DECC), Mai 2012.
17
22. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
ddatblygiadau gwynt ar y tir. Fe'i defnyddiwyd i greu darlun cyfredol o'r cyd-destun polisi a'n
tybiaethau ynghylch gwariant a sail y gwaith modelu economaidd.
Dadansoddiad o Gronfa Ddata RenewableUK
2.22 Mae gan RenewableUK gronfa ddata o'r holl ffermydd gwynt ar y tir yn y DU sydd naill ai ar
waith, yn cael eu hadeiladu, wedi cael caniatâd neu yn y system gynllunio. Rhydd wybodaeth
am nifer o agweddau gan gynnwys:
Y dyddiad y dechreuodd y fferm wynt weithredu neu gael ei hadeiladu, pan roddwyd
caniatâd neu pan ymunodd â'r system gynllunio
Lleoliad
Capasiti wedi'i osod, mewn MW
Datblygwr a gweithredwr.
2.23 Defnyddiwyd y gronfa ddata hon i ddadansoddi tueddiadau o ran capasiti wedi'i osod dros y
blynyddoedd diwethaf a deall yr hyn sydd yn yr arfaeth. Ar sail y data hwn, cafodd tri senario
ar gyfer datblygu'r sector yn y dyfodol eu llunio.
2.24 Trafodir y senarios hyn yn fanylach yn Atodiad A.
Arolwg o Ddatblygwyr a Gweithredwyr
2.25 Un o brif adnoddau ymchwil yr astudiaeth oedd arolwg o holl ddatblygwyr a gweithredwyr
ffermydd gwynt ar y tir yng Nghymru. Cynhaliwyd yr arolwg o ddatblygwyr ym mis Hydref a
mis Tachwedd 2012 a chafwyd gwybodaeth am y canlynol:
y rhan a chwaraeir ganddynt yn y sector ynni gwynt ar y tir yng Nghymru, gan
gynnwys manylion ffermydd gwynt sydd eisoes yn bodoli neu sydd yn yr arfaeth a'u
barn ar gryfder cadwyni cyflenwi ynni gwynt yng Nghymru, ac ar Gymru fel lle i
fuddsoddi ynddo
cynlluniau ynni gwynt ar y tir sy'n cael eu datblygu yng Nghymru, gan gynnwys
costau ac amserlenni datblygu disgwyliedig, a'r tebygolrwydd o brynu nwyddau a
gwasanaethau o Gymru
cynlluniau ynni gwynt ar y tir sydd ar waith yng Nghymru, gan gynnwys pryd y
cawsant eu datblygu, costau gweithredol blynyddol, cyfran y nwyddau a
gwasanaethau a brynwyd o Gymru, nifer y swyddi a grëwyd, y cronfeydd
buddiannau cymunedol a ddarparwyd a disgwyliadau ynghylch datgomisiynu neu
ailbweru ar ddiwedd cylch oes y ffermydd gwynt.
2.26 Roedd yr ymateb a gafwyd yn cwmpasu 66% o'r holl gapasiti presennol ac arfaethedig yng
Nghymru. Darperir holiadur yr arolwg yn Atodiad B.
18
23. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
Ymgynghoriadau
2.27 Rydym wedi ymgynghori â datblygwyr, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid
eraill yn ystod yr astudiaeth hon. Diben yr ymgynghoriadau oedd dwyn ynghyd safbwyntiau
cyfredol ar ddatblygu'r sector a'i ragolygon, er mwyn llywio tybiaethau ynghylch gallu
economi Cymru i gael budd o'r buddsoddiad a'r gwariant cysylltiedig, a llywio ein hasesiad
o'r cyfyngiadau, rhwystrau a chyfleoedd sy'n wynebu'r sector yn y dyfodol.
Astudiaethau Achos
2.28 Er bod gwaith modelu economaidd manwl gywir yn creu darlun cadarn o'r effeithiau
economaidd posibl i Gymru, dim ond drwy ddefnyddio astudiaethau achos y gellir asesu'r
effaith ar lefel leol iawn. Felly, gwnaethom gynnal astudiaethau achos o ffermydd gwynt a
oedd ar waith ac a oedd wedi cael caniatâd o feintiau gwahanol ledled Cymru er mwyn deall
y ffactorau sy'n hyrwyddo neu'n cyfyngu ar y ffordd y mae busnesau, gweithwyr a'r gymuned
leol yn cael budd o'r gweithgarwch economaidd sy'n deillio o ddatblygu ffermydd gwynt ar y
tir yng Nghymru.
19
24. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
3. Y Sector Ynni Gwynt ar y Tir yng Nghymru
Crynodeb o'r Pwyntiau Allweddol
Mae polisi Cymru o ran y sector ynni gwynt ar y tir wedi esblygu dros y blynyddoedd
diwethaf. Rhydd canllawiau cynllunio TAN 8, a gyhoeddwyd yn 2005, ganllawiau ar
leoliad ffermydd gwynt mewn Ardaloedd Chwilio Strategol. Disgwylir mai'r lleoliadau
hyn a fydd yn gartref i'r rhan fwyaf o ffermydd gwynt yn y blynyddoedd i ddod.
Mae'r canllawiau cynllunio diweddaraf yn cynnwys y nod i gyflawni 2,000 MW o
ffermydd gwynt ar y tir erbyn 2025. Disgwylir i gryn dipyn o hyn gael ei gyflawni
erbyn 2020.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod buddiannau economaidd-gymdeithasol posibl
datblygu'r sector. Mae'n anelu at sicrhau bod y buddiannau economaidd hirdymor
hyn yn cael cymaint o effaith â phosibl a bod cymunedau lleol yn cael budd o
ddatblygu seilwaith ynni.
Ystyriwyd bod cyhoeddi TAN 8 wedi ysgogi'r gwaith o ddatblygu'r sector, er mai
rhywbeth byrdymor fu hyn. Ar ôl rhai ychwanegiadau at gapasiti yn 2005 a 2006, ni
chafwyd mwy o dwf yn 2007 a dim ond dwy fferm wynt newydd a welwyd yn 2008.
Dim ond tua chwarter o darged TAN 8 ar gyfer 2010 a gyflawnwyd.
Mae digon o gapasiti yn yr arfaeth i gyflawni'r nod o 2,000 MW erbyn 2025: mae tua
2,200 MW ar waith, wedi cael caniatâd neu yn y system gynllunio.
Ar y cyfan, mae datblygwyr yn gadarnhaol ynghylch presenoldeb cyflenwyr Cymreig
ym meysydd peirianneg sifil, gwasanaethau amgylcheddol ac ymgynghoriaeth
amgylcheddol, ac mae'r rhan fwyaf yn ymwybodol o'r gwaith gweithgynhyrchu tyrau
a geir yng Nghymru (h.y. Mabey Bridge).
Mae'r rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn gallu gweld rhywfaint o botensial i gynyddu eu
defnydd o gwmnïau ar y camau datblygu ac adeiladu dros y tair blynedd nesaf, gyda
thraean yn nodi cryn botensial. Mae cyfran lai o'r farn y gellid cynyddu'r defnydd o
gwmnïau ym maes gweithrediadau a chynnal a chadw.
Mae datblygwyr yn nodi amrywiaeth o rwystrau polisi ac economaidd i dyfu'r
gadwyn gyflenwi yng Nghymru, gan gynnwys risgiau ac ansicrwydd sylweddol
ynghylch cael caniatâd cynllunio a chanfyddiad bod diffyg perchenogaeth o
ddyheadau cenedlaethol ar lefel leol. Mae cyfyngiadau o ran seilwaith (ar y ffyrdd a'r
grid) hefyd yn rhwystrau cyffredin.
Mae 40% o'r datblygwyr a arolygwyd o'r farn bod Cymru yn lle eithaf ffafriol neu
ffafriol iawn i fuddsoddi ynddo. Dim ond lleiafrif bach o ymatebwyr sy'n ystyried bod
Cymru yn lle ffafriol iawn (7%). Dywed tua thraean o’r datblygwyr fod Cymru yn lle
eithaf anffafriol neu anffafriol iawn.
Gan edrych o dan y datganiadau hyn, nid yw'r rhan fwyaf o’r ymatebwyr o'r farn bod
y sylfaen sgiliau yn gyfyngiad. Roedd y rhan fwyaf yn gadarnhaol neu'n niwtral
ynghylch polisi cynllunio cenedlaethol.
Fodd bynnag, roedd cytundeb clir bod polisïau ac arferion cynllunio lleol ynghyd â
seilwaith grid a ffyrdd yn ffactorau negyddol wrth ystyried Cymru fel lleoliad i
fuddsoddi ynddo o ran prosiectau gwynt ar y tir.
20
25. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
Cyflwyniad
3.1 Mae'r adran hon yn trafod y sector ynni gwynt ar y tir yng Nghymru, gan gynnwys:
y cyd-destun polisi sydd wedi llywio'r gwaith o ddatblygu'r sector, sectorau
cysylltiedig a'r seilwaith cymorth yng Nghymru
datblygiad y sector yng Nghymru hyd yma a senarios posibl ar gyfer ei ddatblygu yn y
dyfodol
canfyddiadau rhanddeiliaid diwydiant o Gymru fel lleoliad i ddatblygu ffermydd
gwynt ar y tir.
Cyd-destun Polisi
3.2 Mae ystod eang o bolisïau ar lefel yr UE, y DU a Chymru yn dylanwadu ar y diwydiant ynni
gwynt ar y tir yng Nghymru. Yma, canolbwyntiwn ar esblygiad polisi Cymru hyd yn hyn, er y
dylid nodi mai Arolygiaeth Gynllunio'r DU sy'n penderfynu ar brosiectau dros 50MW (y
Comisiwn Cynllunio Seilwaith oedd yn arfer bod yn gyfrifol am hyn, ond fe'i diddymwyd ym
mis Ebrill 2012).
3.3 Yn erbyn cefndir llu o ffactorau rheoliadol a statudol, ar lefel y DU, y prif adnodd polisi sy'n
ategu'r gwaith o ddatblygu ynni gwynt ar y tir yw'r Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy, y
bwriedir iddi gynyddu'r defnydd o dechnolegau ynni adnewyddadwy er mwyn gwella
sicrwydd ynni a chyfrannu at gyflawni targedau a rhwymedigaethau allyriadau carbon
ehangach.
3.4 Mae symud i gynhyrchu ynni carbon isel ac achub ar y cyfleoedd economaidd sy'n deillio o'r
newid carbon isel wedi bod yn flaenoriaethau i Lywodraeth Cymru ers sawl blwyddyn. O
ystyried manteision naturiol Cymru ym maes ynni gwynt, mae datblygu ffermydd gwynt ar y
tir yn rhan bwysig o'r ymateb hwn. Yr uchelgais sydd wedi'i nodi yn y Rhaglen Lywodraethu
bresennol (2011-2016) yw creu economi carbon isel, gynaliadwy ar gyfer Cymru.
3.5 Mae polisi Cymru o ran ynni adnewyddadwy yn gyffredinol, ac ynni gwynt ar y tir yn
benodol, wedi esblygu dros y blynyddoedd diwethaf.
Polisi Cynllunio 2005
3.6 Yn 2005, cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ar y pryd Ddatganiad Polisi Cynllunio
Interim y Gweinidog3 a bennodd darged ar gyfer cynhyrchu trydan o'r holl dechnolegau
adnewyddadwy i 4TWh erbyn 2010, gyda'r nod o gynyddu hyn i 7TWh erbyn 2020. O fewn y
targed cyffredinol hwn, pennwyd targed a oedd yn ymwneud â thechnoleg yn benodol ar
3
Datganiad Polisi Cynllunio Interim y Gweinidog 01/2005 Cynllunio ar gyfer Ynni Adnewyddadwy,
Gorffennaf 2005. Noder bod y datganiad Polisi Cynllunio diweddaraf wedi'i gynnwys yn Polisi Cynllunio
Cymru Argraffiad 5 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ym mis Tachwedd 2012. Gweler
isod am gyfeiriad at hyn.
21
26. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
gyfer 800 MW ychwanegol o gapasiti ynni gwynt ar y tir erbyn 2010 (h.y. yn ychwanegol at y
233 MW a oedd eisoes ar waith ar yr adeg honno). Cydnabuwyd bod gan Gymru fanteision
naturiol ym maes ynni gwynt ar y tir. Nodwyd bod hyn yn seiliedig ar adnoddau gwynt ar y tir
niferus Cymru a'r ffaith mai ynni gwynt ar y tir yw'r dechnoleg fasnachol
Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 8
3.7 Yn dilyn hynny, cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ganllawiau cynllunio newydd sef
TAN 8. Ynddynt, nodwyd dull strategol o sicrhau bod y targed o 800MW yn cael ei gyflawni.
Elfen allweddol o hyn oedd sefydlu Ardaloedd Chwilio Strategol lle'r oedd bwriad i leoli
ffermydd gwynt mawr. Rhoddwyd targed dangosol i bob Ardal a oedd yn creu cyfanswm o
1,120 MW rhwng y saith ohonynt; pennwyd ffigur uwch er mwyn caniatáu hyblygrwydd wrth
gyflawni'r targed o 800 MW. Mae troednodyn hefyd yn egluro y gallai capasiti yn yr
Ardaloedd hyn gael ei gynyddu er mwyn rhoi uchafswm capasiti o tua 1700 MW yn
gyffredinol ar gyfer yr holl Ardaloedd.
Y Trywydd Ynni Adnewyddadwy
3.8 Ar y cyd â Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig eraill, cyhoeddodd
Llywodraeth Cymru ei Thrywydd Ynni Adnewyddadwy4 yn 2008 ar ffurf dogfen ymgynghori.
Awgrymodd y dylai'r targed ar gyfer 7TWh erbyn 2020 gael ei gynyddu'n sylweddol i 33 TWh
erbyn 2025. Goblygiad hyn o ran ynni gwynt ar y tir yw y byddai'r capasiti hyd at 2500 MW
posibl, neu hyd at 6.5 TWh o ynni trydanol.
Chwyldro Carbon Isel (2010) a Llythyr Gweinidogol Gorffennaf 2011
3.9 Atgyfnerthwyd y pwyslais cynyddol ar dargedau ynni adnewyddadwy pan gyhoeddwyd
Datganiad Polisi Ynni Llywodraeth Cymru sef Chwyldro Carbon Isel yn 2010.5 Neidiodd y
targed cyffredinol ar gyfer trydan adnewyddadwy i 48TWh. I'w roi mewn cyd-destun, mae
hyn yn cyfateb i ddwywaith y trydan y mae Cymru yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd o bob
ffynhonnell ynni. Fodd bynnag, cafodd y potensial o ynni gwynt ar y tir erbyn 2025 ei leihau
o'r ymgynghoriad Trywydd i 2,000 MW. Ers hynny, fe'i hailddatganwyd yn Nogfen Polisi
Cynllunio ddiweddaraf Llywodraeth Cymru.6
3.10 Yn y cyfamser, nid oedd y targedau a fodolai ar gyfer ynni gwynt ar y tir yn cael eu cyflawni.
Dim ond 146 MW a ddatblygwyd erbyn 2010 yn erbyn targed o 800MW - gan olygu bod
Cymru dros 80% ar ei hôl hi (gweler isod am drafodaeth fanylach ar ddatblygu capasiti hyd
yma). Mewn llythyr Gweinidogol ym mis Gorffennaf y flwyddyn honno, eglurodd y
Llywodraeth y sefyllfa o ran ynni gwynt ar y tir, gan nodi ffigurau lefel uwch Garran Hassan
(1700 MW) fel cyfanswm capasiti Ardaloedd Chwilio Strategol. Byddai'r 300 MW a oedd yn
weddill er mwyn cyflawni'r targed o 2,000 MW yn cwmpasu ffermydd gwynt presennol a
phrosiectau preifat a chymunedol arfaethedig llai o faint a oedd y tu allan i'r ardaloedd hyn.
4
Llywodraeth Cynulliad Cymru, Trywydd Ynni Adnewyddadwy Cymru, Ymgynghoriad ar y ffordd ymlaen i Gymru lanach,
wyrddach a llai gwastraffus, Chwefror 2008.
5
Llywodraeth Cynulliad Cymru, Chwyldro Carbon Isel, Datganiad Polisi Ynni Llywodraeth Cynulliad Cymru, Mawrth 2010.
6
Llywodraeth Cynulliad Cymru, Polisi Cynllunio Cymru Argraffiad 5, Tachwedd 2012.
22
27. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
Polisi Datblygu Economaidd Cysylltiedig
3.11 Mae Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid yn cydnabod y gall buddiannau economaidd pwysig
iawn ddeillio o ddatblygu ynni gwynt ar y tir ac maent yn awyddus i sicrhau bod Cymru ar ei
hennill i'r graddau mwyaf posibl. Cafodd hyn ei gydnabod yn y Datganiad Polisi Ynni a
nodwyd uchod a'r Strategaeth Swyddi Gwyrdd (2009). Yn fwy diweddar, mae ymrwymiad y
Llywodraeth i sicrhau'r buddiannau economaidd hyn wedi'u hailddatgan yn Ynni Cymru:
Newid Carbon Isel (Mawrth 2012). Y ddau brif nod yw:
sicrhau'r buddiannau economaidd hirdymor mwyaf posibl i Gymru, yn enwedig o ran
creu swyddi, ar bob cam datblygu.
sicrhau bod cymunedau'n cael budd o ddatblygiadau seilwaith ynni.
3.12 Cydnabyddir, er nad yw polisi ynni fel y cyfryw yn fater datganoledig, mae gan Gymru y pŵer
i achub ar y cyfleoedd a mwynhau'r buddiannau sy'n deillio o symud i gynhyrchu ynni
adnewyddadwy. Y nod, felly, yw sicrhau bod effeithlonrwydd ynni a chynhyrchu trydan yn
cefnogi swyddi drwy'r gadwyn gyflenwi gyfan dros gylch oes datblygiadau - o
weithgynhyrchu i osod, ac o adeiladu i weithredu a datgomisiynu. Mae'r Llywodraeth wedi
ymrwymo'n arbennig i:
sicrhau bod pob datblygiad ynni mawr yn dod â'r manteision economaidd mwyaf i
Gymru drwy ymyriadau wedi'u targedu ym meysydd datblygu'r gadwyn gyflenwi,
cefnogi busnesau, sgiliau a hyfforddiant, caffael, arloesi, ac ymchwil a datblygu.
targedu'r cymorth a gynigir i fusnesau er mwyn helpu i ddatblygu cadwyni cyflenwi
cystadleuol yng Nghymru - mewn sectorau ynni sy'n cynnig y potensial mwyaf ac yng
nghyd-destun datblygiadau ynni penodol sy'n mynd rhagddynt neu a ddisgwylir yng
Nghymru - cefnogi ac annog cwmnïau yng Nghymru i ymwneud â'r broses gaffael.
sicrhau bod ymarferion caffael sy'n ymwneud ag ynni wedi'u cynllunio i ysgogi'r galw
am lafur, cynhyrchion a gwasanaethau lleol a galluogi busnesau yng Nghymru i
gystadlu'n deg ac yn effeithiol.
sicrhau cymaint o werth hirdymor â phosibl i economi Cymru drwy ddatblygu
gweithlu'r dyfodol er mwyn diwallu anghenion y diwydiant.
3.13 Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru am weld cymunedau lleol yn cael budd o ddatblygiadau.
Y nod yw mynd ymhellach na'r safonau cronfa buddiannau cymunedol a bennwyd yn Lloegr
(lleiafswm o £1,000 y flwyddyn dros gylch oes fferm wynt, fesul MW o ynni gwynt wedi'i
osod). Mae'r ymrwymiadau mwyaf perthnasol fel a ganlyn:
gweithio mewn partneriaeth â byd busnes er mwyn cytuno ar ddisgwyliadau ar gyfer
buddiannau economaidd a chymunedol datblygu ynni.
gweithio gyda chymunedau a phartneriaid er mwyn sicrhau bod y cyfoeth a grëir yn
sgil datblygu ynni yng Nghymru o fudd i gymunedau.
sefydlu adnodd i nodi lefel a natur y buddiannau sy'n gysylltiedig â datblygu ynni yng
Nghymru.
23
28. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
3.14 Mae Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid yn mynd ar drywydd nifer o fentrau penodol i
gefnogi'r sector ynni gwynt ar y tir, gan gynnwys:
Helpu busnesau yng Nghymru i gystadlu am gontractau sector cyhoeddus a sector
preifat mawr a'u hennill
Cefnogi'r agenda meithrin sgiliau drwy ariannu darparwyr hyfforddiant addysg uwch
ac addysg bellach. Un enghraifft ddiweddar yw'r cymorth a roddwyd i Goleg
Llandrillo er mwyn cynnig prentisiaethau ar gyfer RWE a Vattenfall.
Gweithio gyda'r Academi Sgiliau Genedlaethol (Ynni) ac EU Skills ar ymchwilio i
raglen sgiliau a chymwysterau, ei dylunio a'i chyflwyno ar gyfer y sector ynni
adnewyddadwy cyfan.
Datblygu'r Sector: Profiad Blaenorol a Rhagolygon
Profiad Hyd Yma
3.15 Mae Ffigur 3-1 yn nodi'r duedd o ran y lefel o gapasiti gweithredol wedi'i osod (MW) dros y
degawd diwethaf. Ar ddechrau'r 2000au, arhosodd capasiti wedi'i osod ar lefel eithaf
cymedrol sef tua 150MW. Yn ystod y cyfnod hwn, dim ond nifer fechan o ffermydd gwynt
cymharol fach a ddatblygwyd, gyda'r un fwyaf yng Nghemaes ym Mhowys (15 MW).
Dechreuodd capasiti gynyddu'n fwy amlwg yn 2005 a 2006, gan gynnwys:
Tir Mostyn, Fferm Wynt 21 MW yn Sir Ddinbych a ddaeth yn weithredol ym mis
Hydref 2005
Cefn Croes, fferm wynt 59 MW yng Ngheredigion a ddaeth ar-lein ym mis Mehefin
2005
Ffynnon Oer, fferm wynt 32 MW yng Nghastell-nedd Port Talbot a ddaeth yn
weithredol ym mis Mehefin 2006.
3.16 Mae ein hymgynghoriadau yn awgrymu bod TAN 8 wedi cael effaith fawr i ddechrau o ran
caniatâu a gosod capasiti newydd, yn ogystal â denu cwmnïau i gefnogi'r twf hwn. Er
enghraifft, sefydlodd y cwmni cyfreithwyr Eversheds swyddfa yng Nghaerdydd ar sail y
disgwyliad y byddai twf sylweddol yn y diwydiant i gefnogi prosiectau ynni gwynt ar y tir. O
ystyried y graddau y datblygwyd capasiti newydd, roedd yn rhesymol tybio ar y pryd fod
cynnydd digonol yn cael ei wneud tuag at gyflawni'r targed o 800 MW ar gyfer 2010 (er bod
y fath gapasiti ychydig yn is na'r hyn a fyddai'n angenrheidiol bob mis ar gyfartaledd). Fodd
bynnag, gwastatáu a wnaeth capasiti yn y blynyddoedd wedyn, heb unrhyw ychwanegiadau
yn 2007 a dim ond dwy fferm wynt newydd yn 2008, gyda chyfanswm o 15.6 MW o gapasiti
ychwanegol yn cael ei roi ar waith. Felly, daeth yn amlwg, oni bai bod newid sylweddol, na
fyddai targed 2010 yn cael ei gyflawni.
3.17 Dyma a ddigwyddodd, gyda nifer fach o ffermydd gwynt cymharol fach yn cael eu datblygu
yn 2009 a 2010. Dim ond tua chwarter o darged TAN 8 ar gyfer 2010 a gyflawnwyd hyd yma.
Nodir datblygiad capasiti gweithredol cronnol wedi'i osod - a'r graddau y methwyd targed
2010 - yn Ffigur 3-1.
24
29. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
Ffigur 3-1: Capasiti Gweithredol Cronnol wedi'i Osod yng Nghymru, 2000-12
1,000
900
Targed 2010
800
Capasiti Gweithredol wedi’i Osod (MW)
700
600
500
Cefn Croes Carno
400
Tir Mostyn
300
Installe d Operational Capa city (MW)
200
Alltwalis
100
Fynnon Oer
0
2000 2001 2002 2003 2004 2005 2006 2007 2008 2009 2010 2011 2012
Ffynhonnell: Cronfa Ddata RenewableUK
3.18 Ar hyn o bryd, ceir 423 MW o gapasiti ynni gwynt ar y tir wedi'i osod ledled Cymru. Nodir
ymhle ar y map isod.
25
30. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
Ffigur 3-2: Ffermydd Gwynt Gweithredol yng Nghymru, ym mis Rhagfyr 2012
Ffynhonnell: Cronfa Ddata RenewableUK
Rhagolygon ar gyfer y Dyfodol
3.19 Mae RenewableUK yn cadw cofnod o bob fferm wynt sy'n cael ei hadeiladu, sydd wedi cael
caniatâd neu sydd yn y system gynllunio. Mae'r tabl isod yn crynhoi'r capasiti gweithredol
presennol a'r capasiti arfaethedig yn y system gynllunio a datblygu. Fel y gwelir,
caiff 111MW o gapasiti ei adeiladu ar hyn o bryd (35 MW yn dechrau yn 2011 a 77
MW yn 2012) ac felly mae'n debygol o gael ei gyflwyno erbyn 2014 fan bellaf
mae 15 o ffermydd gwynt - cyfanswm o 449 MW o gapasiti - wedi'u cymeradwyo
ond nid yw'r gwaith adeiladu wedi dechrau eto
mae 37 o ffermydd gwynt eraill yn y system gynllunio. Gallai'r rhain gyflwyno 1,200
MW arall o gapasiti. Fodd bynnag, mae'n annhebygol iawn y caiff pob un ei
chymeradwyo ac mae rhai, yn wir, yn annibynnol ar ei gilydd.
26
31. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
Tabl 3-1: Capasiti wedi'i Osod mewn Ffermydd Gwynt ar y Tir yng Nghymru: Ar Waith ac Yn Yr
Arfaeth
Ffermydd Tyrbinau Capasiti MW
Gwynt
Ar Waith 38 540 423
Cymeradwywyd ond nis adeiladwyd 15 145 449
Wrthi'n cael eu hadeiladu 5 44 111
Yn disgwyl penderfyniad 37 490 1,204
Cyfanswm Cyfredol y Capasiti Posibl 95 1,219 2,187
Ffynhonnell: Cronfa ddata RenewableUK, Hydref 2012
3.20 Mae hyn felly'n awgrymu, o ystyried y gwaith sydd yn yr arfaeth ar hyn o bryd, ei bod yn
dechnegol ymarferol cyflawni targed dyheadol Llywodraeth Cymru sef 2,000 MW o gapasiti
ynni gwynt ar y tir yn gynt. Mae hefyd yn debygol y bydd cynlluniau sydd ar y cam cyn
cynllunio ar hyn o bryd yn ymuno â'r system gynllunio yn y blynyddoedd i ddod.
3.21 Mae'r map isod yn dangos lleoliad yr holl ffermydd gwynt sydd yn yr arfaeth, yn ogystal â'r
rhai sydd ar waith. Fel y gwelir, caiff prosiectau sydd ar waith ac sydd yn yr arfaeth eu
clystyru yn y Canolbarth, ac i raddau llai yn Ne-orllewin Cymru.
Ffigur 3-3: Ffermydd Gwynt ar y Tir yng Nghymru (Ar Waith ac Yn Yr Arfaeth), Rhagfyr 2012
Ffynhonnell: Cronfa Ddata RenewableUK
27
32. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
Senarios Datblygu
3.22 Mae'n ddefnyddiol defnyddio'r hyn rydym yn ei wybod am raddau'r cynnydd dros y
blynyddoedd diwethaf er mwyn blaengynllunio ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Dengys y
newid mewn cynnydd a fydd yn angenrheidiol yn y dyfodol er mwyn cyflawni dyheadau.
3.23 Rhwng 2001 a 2011, daeth cyfanswm o 270 MW o gapasiti gwynt ar y tir yn weithredol
(cyfartaledd blynyddol o 27 MW). Os bydd y duedd hon yn parhau, byddai cyfanswm
capasiti wedi'i osod o tua 800MW yng Nghymru erbyn 2025 - sy'n amlwg yn ddiffyg
sylweddol (60%) o gymharu â'r dyhead o 2,000MW.
Ffigur 3-4: Amcanestyniad ar Sail Tuedd Hanesyddol (2001-11)
2,000 MW erbyn 2025
2,000
1,800
1,600 Diffyg o 6o%
1,400
Capasiti Gweithredol
1,200 Capasiti gwirioneddol wedi’i osod
Amcanestyniad
1,000
27 MW y.fl. o gapasiti
800 ychwanegol ar gyfartaledd
600
Operati onal Capa city
400
200
0
2001 2002 2003 2004 2005 2006 2007 2008 2009 2010 2011 2012 2013 2014 2015 2016 2017 2018 2019 2020 2021 2022 2023 2024 2025
Ffynhonnell: Cronfa Ddata RenewableUK
3.24 Yn sail i'r senario hon, mae'r potensial y gallai'r gyfradd ddatblygu a'r capasiti newydd a
ddaw'n weithredol yn y dyfodol arafu y tu hwnt i'r gyfradd ganiatáu bresennol (gweler
senario tri), o bosibl o ganlyniad i fethiant cyffredinol cynlluniau i gael caniatâd a'r ffaith y
gallai buddsoddiadau symud i leoliadau neu dechnolegau buddsoddi eraill.
3.25 Yn ogystal â'r duedd hirdymor hon, mae cronfa ddata RenewableUK yn ein helpu i ddeall y
duedd fwy diweddar o roi caniatâd ar gyfer ffermydd gwynt ar y tir yng Nghymru. Fel y
nodwyd uchod, mae'r gronfa ddata yn dynodi bod 493 MW o gapasiti wrthi'n cael ei
adeiladu neu wedi cael caniatâd cyn ei adeiladu. Gan gyfuno ein gwybodaeth am pryd y
cafodd y ffermydd gwynt hyn ganiatâd a thystiolaeth o'n harolwg o ddatblygwyr ynghylch y
dyddiad tebygol y byddant yn dod yn weithredol, mae'n debygol y daw'r rhan fwyaf o'r
capasiti hwn sydd yn yr arfaeth yn weithredol erbyn 2016. Mae hyn yn cyfateb i gyfartaledd
blynyddol o 124MW y.f. o gapasiti ychwanegol yn ystod y cyfnod. Gan dybio y bydd y
gyfradd hon yn parhau hyd at 2025, byddai hyn yn fwy na digon i fodloni'r dyhead o
2,000MW. Fodd bynnag, mae cynllun mawr iawn yn cael dylanwad mawr ar y cynlluniau a
gymeradwywyd yn ddiweddar: cynllun Pen-y-Cymoedd (256 MW). Fe'i cymeradwywyd ym
mis Mai 2012 a hwn yw'r cynllun arfaethedig mwyaf yng Nghymru a Lloegr ar hyn o bryd. Nid
oes unrhyw gynlluniau eraill o faint tebyg yn y system gynllunio ar hyn o bryd (Carnedd Wen
yw'r cynllun mwyaf). Felly, nid yw'n realistig bwrw ati i lunio rhagamcanion ar gyfer y dyfodol
28
33. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
ar sail y gyfradd ddatblygu hon gan gynnwys Pen-y-Cymoedd.
3.26 Heb gynnwys Pen-y-Cymoedd yn y cynlluniau a gafodd ganiatâd yn ddiweddar, ceir capasiti
ychwanegol blynyddol cyfartalog o 49MW y flwyddyn. Byddai bwrw ati i lunio rhagamcanion
ar gyfer y dyfodol ar y sail hon hefyd yn amheus gan ein bod yn gwybod bod Pen-y-Cymoedd
wedi cael caniatâd. Felly rydym wedi defnyddio canolbwynt rhwng 124MW a 49MW y
flwyddyn: sef 86MW y flwyddyn. Byddai bwrw ati i lunio rhagamcanion ar y sail hon yn
golygu 1,560MW o gapasiti wedi'i osod erbyn 2025 - diffyg o 22% ar 2,000 MW erbyn 2025.
Nodir hyn yn Ffigur 3-5 isod.
Ffigur 3-5: Amcanestyniad ar Sail Cyfraddau Cydsynio Diweddar (ffermydd gwynt sy'n cael eu hadeiladu ac
sydd wedi cael caniatâd)
2,000 MW erbyn 2025
2,000
1,800
Diffyg o 22%
1,600
Capasiti gwirioneddol wedi’i osod
Capasiti Gweithredol
1,400
1,200 Amcanestyniad
1,000
800
600
Operati onal Capa city
400
200 86 MW y.fl. ar sail caniatâd diweddar
0
2001 2002 2003 2004 2005 2006 2007 2008 2009 2010 2011 2012 2013 2014 2015 2016 2017 2018 2019 2020 2021 2022 2023 2024 2025
Ffynhonnell: Cronfa Ddata RenewableUK
3.27 Mae'r blaenamcanestyniadau hyn yn cael eu defnyddio fel y sail ar gyfer y senarios datblygu
a brofir gennym yn ein gwaith modelu economaidd (gweler adran 4). Profwn dri senario:
Senario Dyhead: 2,000MW erbyn 2025
Senario Tueddiadau Hanesyddol: parhau â thueddiadau 2001-11
Senario Tueddiadau Diweddar: parhau â thueddiadau cydsynio mwy diweddar
3.28 Rhoddir esboniad llawn o sail y senarios hyn yn Atodiad A.
Canfyddiadau'r Diwydiant o Gymru fel lleoliad i fuddsoddi ynddo
3.29 Drwy ein hymgynghoriadau a'n harolwg o ddatblygwyr a gweithredwyr (gweler Atodiad A
am ragor o fanylion am yr arolwg ac Atodiad B am holiadur yr arolwg), rydym wedi casglu
barn y diwydiant ar Gymru fel lleoliad i ddatblygu prosiectau ynni gwynt ar y tir.
3.30 Trafodir y canfyddiadau allweddol isod.
29
34. ● Cyfleoedd Economaidd i Gymru yn sgil Datblygu Ynni Gwynt ar y Tir yn y Dyfodol ●
Y Gadwyn Gyflenwi
3.31 Gwnaethom ofyn i ddatblygwyr a gweithredwyr i ba raddau y credant y gallant brynu
nwyddau a gwasanaethau o'r ansawdd cywir am y pris cywir, a sut roedd hyn yn amrywio yn
ôl y mathau o nwyddau a gwasanaethau sydd eu hangen i adeiladu a gweithredu ffermydd
gwynt. Nodir cyfran y datblygwyr sy'n credu bod dewis da, neu rywfaint o ddewis, o
gyflenwyr yng Nghymru isod, wedi'i rhannu yn ôl elfen gyffredinol o'r gadwyn gyflenwi.
Ffigur 3-6: Y gallu i brynu nwyddau a gwasanaethau gan gyflenwyr a leolir yng Nghymru
Datblygu ac Adeiladu
Gweithrediadau a Chynnal a Chadw
90%
Dewis da o gyflenwyr yng Nghymru Rhai cyflenwyr yng Nghymru
80%
80% 70%
70% 60%
% y Datblygwyr
60% 50%
% y Datblygwyr
50% 40%
40% 30%
30% % of Developers
20%
20%
% of Developers
10%
10%
0%
0%
Ffynhonnell: Arolwg o Ddatblygwyr a Gweithredwyr (Medi-Tachwedd 2012) n = 15
I ba raddau y gallwch brynu'r amrywiaeth o nwyddau a gwasanaethau, am gost ac o ansawdd priodol, a ddefnyddir
i adeiladu a gweithredu eich cynlluniau ynni gwynt ar y tir gan gyflenwyr wedi'u lleoli yng Nghymru?
3.32 O ran datblygu ac adeiladu, mae'r pwyntiau allweddol fel a ganlyn:
Nododd ychydig dros hanner yr ymatebwyr fod dewis da o gwmnïau peirianneg sifil
yng Nghymru, gyda 33% arall yn nodi bod rhai cyflenwyr yn y maes hwn yng
Nghymru. Cafodd hyn ei gadarnhau yn ein cyfweliadau manylach â datblygwyr a
rhanddeiliaid, a dynnodd sylw at bresenoldeb cryf cwmnïau gwaith sifil. Ymhlith yr
enghreifftiau mae Jones Brothers, a leolir yn Sir Ddinbych ac Abertawe, a Raymond
Brown, ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Nododd cyfran lai fod cwmnïau peirianneg
trydanol ar gael (roedd 27% o'r farn bod dewis da ac roedd 40% arall o'r farn bod
rhywfaint o ddewis yng Nghymru).
Nodwyd bod rhai gwasanaethau amgylcheddol ac ymgynghori i'w cael yng Nghymru
hefyd, gyda 93% ac 87% o ymatebwyr yn y drefn honno o'r farn bod dewis da neu
rywfaint o ddewis o gyflenwyr yng Nghymru. Tynnodd ein hymgynghoriadau sylw at
y ffaith bod sawl ymgynghorydd yng Nghymru a allai gynnal Asesiad o’r Effaith
Amgylcheddol. Fodd bynnag, weithiau mae tueddiad i ddatblygwyr benodi cwmnïau
mwy o faint sydd ag enw da am ei bod hi'n fwy tebygol y cynhelir ymchwiliad
cyhoeddus yng Nghymru na Lloegr a'r Alban. Codwyd y pryder nad oes digon o
gwmnïau o faint addas nac â'r profiad addas i gael dyfynbris am brosiect gan
gwmnïau a leolir yng Nghymru yn unig (nid yw llawer o'r cwmnïau mawr a
ddefnyddir yn dod o Gymru oherwydd arbedion maint y DU). Ar y cyfan, credwyd
bod cwmnïau gwasanaethau proffesiynol eraill (cyfreithiol ac ariannol) i'w cael yng
Nghymru (roedd dwy ran o dair o'r farn bod rhywfaint ar gael o leiaf) ond dim ond
30