2. Welcome to the
Severn Estuary
The Severn Estuary has something for all who visit its
coastline, whether it be walking along the coast path, bird
watching on a wetland reserve or having a picnic watching
the famous Severn Bore.
Steeped in history, culture and wildlife, the Severn Estuary
has a unique landscape– just waiting for you to explore! We
have one of the highest tidal ranges in the world, so expect to
see the water level change - as much as 1 metre in little more
than 20 minutes on some tides - as you wander along the
coast. Home to a wide range of important wildlife, the estuary
also has many visitors, with over 80,000 birds arriving every
winter. Its rich coastal archaeological heritage boasts
amongst the greatest in Britain, so be sure to keep your eye
out for evidence of the past.
This guide provides 20 iconic and beautiful spots on the
Severn Estuary for you to visit, enjoy and explore.
Visiting one of the sites today?
Share your images with us on Twitter and Instagram
@SevernEstuary and use #ExploreTheSevern.
Find out more by visiting:
www.severnestuarypartnership.org.uk/sep/explore
Croeso i Aber
Afon Hafren
Mae gan Aber Afon Hafren rywbeth at ddant pawb sy’n
ymweld â’i arfordir – gallwch fynd am dro ar hyd llwybr yr
arfordir, gwylio adar mewn gwarchodfa gwlyptir neu fwynhau
picnic yn gwylio’r Eger Hafren enwog.
Mae tirwedd Aber Afon Hafren yn llawn hanes, diwylliant a
bywyd gwyllt – da chi, dewch i’w darganfod! Mae gennym un
o amrediadau llanw mwya’r byd, felly disgwyliwch weld lefel y
dŵr yn newid – cymaint ag 1m mewn ychydig dros 20 munud
ar adegau – wrth i chi grwydro ling-di-long ar hyd yr arfordir.
Mae’r aber, sy’n gartref i amrywiaeth o fywyd gwyllt o bwys,
yn denu heidiau o ymwelwyr, gyda dros 80,000 o adar yn
cyrraedd bob gaeaf. Mae ei dreftadaeth archeolegol arfordirol
cyfoethog ymysg y gorau ym Mhrydain, felly cadwch lygad
allan am ambell atgof o’r dyddiau a fu.
Mae’r canllaw hwn yn trafod 20 lleoliad eiconig a phrydferth
ar hyd Aber Afon Hafren i chi ymweld â nhw, eu mwynhau
a’u crwydro.
Ydych chi’n ymweld ag un o’n safleoedd heddiw?
Rhannwch eich lluniau gyda ni ar Twitter ac Instagram
@SevernEstuary a defnyddiwch #ExploreTheSevern
Dysgwch fwy yn:
www.severnestuarypartnership.org.uk/sep/explore
Cafe
Caffi
Toilets
Toiledau
Geological
Daearegol
Boat Transport
Cludiant Cychod
Historical
Hanesyddol
Pay Entry
Mynediad Talu
Tide Dependant
Llanw yn Ddibynnol
Walking
Cerdded
Parking (Pay)
Parcio (Talu)
Wildlife
Bywyd Gwyllt
Parking (Free)
Parcio (Am ddim)
Very Low Mud Level
Lefel Mwd Isel Iawn
Parking (Road)
Parcio (Ffordd)
Low Mud Level
Lefel Mwd Isel
Photography
Ffotograffiaeth
Medium Mud Level
Lefel Mud Canolig
Picnic
Picnic
High Mud Level
Lefel Mwd Uchel
Shop
Siop
Very High Mud Level
Lefel Mwd Uchel iawn
Key / Allwedd
£
Frontcoverphoto/Llunclawrblaen:CarolynEaton
3. Check the tide times and weather forecast
before you visit the coast.
Cymerwch olwg ar amseroedd y llanw a’r rhagolygon tywydd
cyn i chi ymweld â’r arfordir.
Safety on the Severn Diogelwch ar yr Hafren
• Keep safe on the foreshore, taking care of slippery rocks and the mudflats
– the risk of getting stuck is real.
• The Severn has one of the highest tidal ranges in the world - remember how quickly the
tide moves and changes – up to 1 metre in little more than 20 minutes on some tides.
• Wear suitable clothing and footwear, it can be muddy – check the welly meter for each site.
• Remember to check Public Rights of Way before setting off.
• Cadwch yn ddiogel ar flaen y traeth, cymerwch ofal ar greigiau llithrig a’r traethellau
– mae perygl gwirioneddol o fynd yn sownd.
• Mae gan yr Hafren un o amrediadau llanw mwya’r byd – cofiwch pa mor gyflym mae’r
llanw’n symud a newid – hyd at 1m mewn ychydig dros 20 munud ar adegau.
• Gwisgwch ddillad a sgidiau addas – gall fod yn fwdlyd. Cymerwch olwg ar y mesurydd
welîs ar gyfer pob safle.
• Cofiwch wybod beth yw'r Hawliau Tramwy Cyhoeddus cyn mynd.
For more information on how to look after the estuary visit: www.asera.org.uk/good-practice-guidelines
For tide times visit: www.ukho.gov.uk/easytide
I gael rhagor o wybodaeth am sut i ofalu am yr aber, ewch i: www.asera.org.uk/good-practice-guidelines
I weld yr amseroedd llanw ewch i: www.ukho.gov.uk/easytide
Always bring a charged mobile phone and let friends or family
know where you are and when you are likely to return home.
The estuary is a home for wildlife – take care not to disturb
feeding, breeding and resting birds.
Stay on the footpaths where possible – help to protect the
mudflats and saltmarsh that support wildlife.
Help to keep the coast enjoyable for all and take all litter
home with you.
Dewch â ffôn symudol wedi’i wefru’n llawn gyda chi bob tro
a rhowch wybod i’ch teulu a ffrindiau lle rydych chi a phryd
rydych yn debygol o fod gartref.
Mae’r aber yn gartref i fywyd gwyllt – peidiwch â tharfu ar
adar sy’n bwydo, magu neu orffwys.
Cadwch at y llwybrau lle y bo’n bosibl – helpwch ni i ddiogelu’r
traethellau a’r morfa sy’n cefnogi bywyd gwyllt.
Helpwch ni i sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau’r arfordir
– ewch â’ch sbwriel gartref gyda chi.
4. Whitmore Bay
Barry Island’s Whitmore Bay is ideal for a fun, family day out at all
times of the year. The award winning, Blue Flag beach has golden sand
and fascinating rock pools home to crabs, limpets and barnacles.
Famous for the TV show Gavin and Stacey, it offers a beautiful spot
to enjoy an ice-cream, build sandcastles and go for a paddle. Bucket
and spade anyone? Wander along the limestone headland for fantastic
views of the wider Severn Estuary. It makes up part of the Wales Coast
Path - keen to explore more? Visit the Glamorgan Heritage Coast that
stretches from Aberthaw to Porthcawl. Cold Knap beach and Jackson
Bay are also not to miss if you are in the area.
Bae Whitmore
Mae Bae Whitmore yn Ynys y Barri yn ddelfrydol am ddiwrnod allan
gyda’r teulu ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Mae tywod euraidd y traeth,
sydd wedi ennill Baner Las, a’r pyllau glan môr yn gartref i grancod,
cregyn meheryn a chregyn llong. Yn enwog diolch i’r sioe deledu Gavin
and Stacey, mae’n llecyn hardd i fwynhau hufen iâ, adeiladu cestyll
tywod a phadlo. Bwced a rhaw unrhyw un? Ewch am dro ar hyd y
pentir calchfaen am olygfeydd godidog o Aber Afon Hafren. Mae’n
rhan o Lwybr Arfordir Cymru – os hoffech weld mwy, ewch i Arfordir
Treftadaeth Morgannwg sy’n ymestyn o Aberddawan i Borthcawl. Mae
traeth Cold Knap a Bae Jackson hefyd yn llefydd hyfryd na ddylech eu
methu tra eich bod yn yr ardal.
£1
CF62 5TQ CF62 5AH
www.severnestuarypartnership.org.uk/explore
Photocredit:PhilippaEvans
5. Flat Holm Island
Situated in the middle of the Estuary, Flat Holm provides stunning
views and a unique experience to really explore the Severn in
a different way. Its remoteness and isolation gives a sense of
excitement. Half a mile wide, the island is home to fantastic wildlife
including seabird colonies - don’t forget to bring your binoculars.
Visit the Isolation Hospital, used to protect the mainland from a
cholera epidemic in 1883. Look out for the historical lighthouse, fog
horn station and WW2 fortifications. Feeling adventurous? You can
stay overnight on the Island. Day trips (using high speed RIBs) also
depart from Cardiff Bay several times a month.
Ynys Echni
Mae Ynys Echni, sy’n gorwedd yng nghanol yr Aber, yn cynnig
golygfeydd gogoneddus a phrofiad unigryw sy’n rhoi’r cyfle i rywun
ddarganfod Afon Hafren mewn ffordd wahanol. Mae ei natur
anghysbell yn ennyn cyffro. Mae’r ynys, lai na hanner milltir ar ei
hyd, yn gartref i fywyd gwyllt bendigedig, fel nythfeydd adar môr,
felly cofiwch ddod â’ch ysbienddrych. Cofiwch ymweld â’r Ysbyty
Arwahanu, a ddefnyddiwyd i ddiogelu’r tir mawr rhag epidemig colera
ym 1883. Cadwch lygad allan am y goleudy hanesyddol, gorsaf y corn
niwl ac amddiffynfeydd o’r Ail Ryfel Byd. Gallwch aros dros nos ar yr
Ynys, ond mae teithiau dydd (ar gychod RIB cyflym) yn gadael o Fae
Caerdydd sawl gwaith y mis.
£ 2
CF10 5BZ (Cardiff Bay)
www.severnestuarypartnership.org.uk/explore
Photocredit:CardiffHarbourAuthority
6. Penarth to Lavernock Point
If you fancy a long coastal walk (~2.5 hours) with views across to the
islands of Flat Holm and Steep Holm (even the Somerset coast on a clear
day), then this stretch is for you. Park at Penarth or Lavernock Point
(depending on where you want to start from) and make your way along
the road before joining up with the Wales Coast Path. Upon reaching
Lavernock Point Nature Reserve, spot a variety of butterflies, moths
and birds like sparrowhawks and green woodpeckers. Lavernock Point
is perfect for geology lovers who want to explore the cliffs (a mixture of
Jurassic and Triassic rocks) for evidence of the history of the Severn
Estuary, our very own Jurassic Park. (Facilities are at Penarth).
Penarth i Drwyn Larnog
Am dreulio ychydig oriau yn cerdded (tua 2.5 awr) i gael golygfeydd o
Ynys Echni ac Ynys Rhonech (ac arfordir Gwlad yr Haf ar ddiwrnodau
clir)? Dyma’r llwybr i chi! Parciwch ym Mhenarth neu Drwy Larnog
(yn dibynnu ar le byddwch yn dechrau eich taith) a cherddwch ar
hyd y ffordd cyn ymuno â Llwybr Arfordir Cymru. Pan gyrhaeddwch
Warchodfa Natur Trwyn Larnog, gallwch geisio dod o hyd i amrywiaeth
o bili-palaod, gwyfynod ac adar, fel y gwalch glas a’r gnocell werdd.
Mae Trwyn Larnog hefyd yn berffaith i bobl sy’n hoff o’u daeareg
ac sydd am grwydro’r clogwyni (cymysgedd o greigiau Jwrasig a
Thriasig) am gip ar hanes Aber Afon Hafren – ein Jurassic Park ein
hunain. (Cyfleusterau ym Mhenarth).
£3CF64 3AU (Penarth) CF64 5XQ (Lavernock Point)
www.severnestuarypartnership.org.uk/explore
Photocredit:SamGreen
7. Cardiff Bay
A vibrant hub of activity along the estuary. Mermaid Quay is home to
shops, bars, the Senedd and Pier Head Building (National Assembly
for Wales), Norwegian Church (once an important meeting place for
Norwegian seafarers during the industrial revolution), and Cardiff
Bay Wetland Reserve. Easily accessible with walkways, the reserve
attracts a variety of wildlife.
To enjoy views across the city, walk along the Barrage from the
Church. The Barrage has impressive locks, a fish pass and an
embankment play area. Take time to stop and watch the world
(and the boats) go by.
Bae Caerdydd
Mae gweithgareddau ar hyd yr aber. Mae Cei’r Fôr-forwyn yn gartref
i lawer o siopau a bariau, y Senedd ac Adeilad y Pierhead (Cynulliad
Cenedlaethol Cymru), yr Eglwys Norwyaidd (unwaith yn fan cyfarfod
i forwyr o Norwy yn ystod y chwyldro diwydiannol) a Gwarchodfa
Gwlyptiroedd Bae Caerdydd. Mae’n hawdd ei cherdded ar y llwybrau
cerdded ac mae’n denu amrywiaeth o fywyd gwyllt.
I fwynhau golygfeydd o’r ddinas, cerddwch ar hyd Morglawdd Bae
Caerdydd o’r Eglwys. Mae lociau’r Morglawdd yn drawiadol, llwybr
pysgod ac ardal chwarae. Cymrwch ysbaid i wylio’r byd a’i bethau
(a’r cychod).
£ 4 CF10 5BS
www.severnestuarypartnership.org.uk/explore
Photocredit:AndrewRees
8. Newport Wetlands
A beautiful nature reserve on the edge of Newport overlooking the
Severn Estuary, home to a wealth of nature throughout the year.
Bring your binoculars and look out for bumblebees, dragonflies
and butterflies in the spring and summer, spectacular starling
murmurations and a variety of wildfowl during the cooler months.
Star species such as the marsh harrier and bearded tit can be seen
year round. This sanctuary is bursting with wildlife and spectacular
views of the Severn Estuary all year round.
Gwlyptiroedd Casnewydd
Gwarchodfa natur brydferth ar gyrion Casnewydd sy’n edrych
dros Aber Afon Hafren ac sy’n gartref i gyfoeth o fywyd gwyllt
drwy gydol y flwyddyn. Dewch â’ch binocwlars i gael golwg graff
ar ambell gachgi bwm, gwas y neidr a phili-pala yn y gwanwyn a’r
haf, murmuron syfrdanol y drudwy ac amrywiaeth o adar yn ystod
y misoedd oerach. Mae rhywogaethau enwog fel boncath y wern a’r
titw barfog i’w gweld yma drwy gydol y flwyddyn. Mae’r warchodfa
dan ei sang â bywyd gwyllt ac yn cynnig golygfeydd bendigedig o
Aber Afon Hafren gydol y flwyddyn.
5NP18 2BZ
www.severnestuarypartnership.org.uk/explore
Photocredit:CeriBurrows
9. Black Rock
For impressive, panoramic views of the estuary and both Severn
Bridge crossings, visit Black Rock. It’s ideal for a relaxed afternoon
picnicking on the coast, taking in the scenery and reading up on
the history of the Black Rock Lave Net Heritage Fishery which has
been active since the 1920s. Join up with the Wales Coast Path (turn
right out of car park entrance) for half a mile to explore the ruins
of Sudbrook Chapel, dating back to the 12th century and Sudbrook
Camp, a late iron-age cliff top fort. Be sure to scan the saltmarsh,
mudflats and rocky shore on the way for species such as shelduck,
buzzard, oystercatcher and curlew all year round.
Y Graig Ddu
I fwynhau golygfeydd trawiadol, panoramig o’r aber a’r ddwy Bont
Hafren, ewch i’r Graig Ddu. Mae’n llecyn hyfryd i fwynhau picnic
pnawn wrth y môr, mwynhau’r olygfa a dysgu am hanes Pysgodfa
Treftadaeth Rhwydi Golchi’r Graig Ddu, sydd wedi bod ar waith ers
y 1920au. Ymunwch â Llwybr Arfordir Cymru (drwy droi i’r dde allan
o fynedfa’r maes parcio) am hanner milltir i weld adfeilion Capel
Sudbrook, sy’n dyddio o’r 12fed ganrif, a Gwersyll Sudbrook, sy’n
glogwyn-gaer yn dyddio o ddiwedd yr oes haearn. Gallech weld
rhywogaethau fel hwyaden yr eithin, y boncath, pioden y môr a’r
gylfinir ar y morfa, y traethellau a’r arfordir creigiog drwy gydol
y flwyddyn.
6
NP26 5TW
www.severnestuarypartnership.org.uk/explore
Photocredit:BenHollier
10. Lydney Harbour
Breathtaking estuary views at Lydney Harbour are a welcome
surprise for first time visitors. The historic dock dates back to the
early 19th Century, although Lydney’s use as a water gateway goes
back even further. Remnants of its industrial past are still visible
today. Once you’ve taken in the natural splendour of the estuary
from the short walk around the harbour, you can visit Lydney and
the many attractions of the Forest of Dean. A trip to the historic
Gloucester Docks is also a must-do. Visit our website for more
information.
Harbwr Lydney
Mae’r golygfeydd ysblennydd o’r aber yn siŵr o’ch syfrdanu os ydych
yn ymweld â Harbwr Lydney am y tro cyntaf. Mae’r doc hanesyddol
yn dyddio’n ôl i ddechrau’r 19eg ganrif, ond mae Lydney wedi cael
ei defnyddio fel porth dŵr ers oes pys. Mae olion o’i gorffennol
diwydiannol i’w gweld o hyd. Ar ôl mwynhau rhyfeddodau naturiol
yr aber o’r llwybrau byrion o amgylch yr harbwr, ewch i ymweld
â Lydney ei hun ac atyniadau amrywiol Fforest y Ddena. Cofiwch
ymweld â Dociau Caerloyw hefyd. Ewch i’n gwefan i gael rhagor o
wybodaeth.
7GL15 4EJ
www.severnestuarypartnership.org.uk/explore
Photocredit:StanBGreen
11. Newnham-on-Severn
the Severn Bore
Stroll along the banks of the river at Newnham-on-Severn and enjoy
the tranquil setting. Using the telescope, watch a variety of birds
feeding on the mudflats from afar. It’s also a popular spot to view the
famous Severn Bore – one of Britain’s greatest natural phenomena.
The Severn Bore is a large surge wave created by the rising tide that
travels upstream, at speeds of up to 13mph. You can often see surfers
and kayakers catching the bore, some travelling great distances.
The height of the bore increases upstream - travelling further towards
Minsterworth is worthwhile. Visit our website for more information
and links to the bore timetable.
Newnham-on-Severn ac Eger Hafren
Ewch am dro ar hyd glannau’r afon yn Newnham-on-Severn i fwynhau
eiliad o heddwch. Defnyddiwch y telesgop i wylio amrywiaeth o adar
yn bwydo ar y traethellau. Mae hefyd yn fan poblogaidd i wylio’r enwog
Eger Hafren – un o ryfeddodau naturiol enwocaf Prydain. Mae’r eger yn
don ymchwydd fawr sy’n cael ei chreu gan daith y llanw i fyny’r afon
hyd at 13 milltir yr awr. Yn aml fe welwch syrffwyr a chaiacwyr yn dal
yr eger, gyda rhai’n teithio pellteroedd maith! Mae’r eger yn tyfu wrth
iddo deithio i fyny’r afon, felly teithiwch tua i’w weld ar ei orau. Ewch
i’n gwefan i gael rhagor o wybodaeth a dolenni i amserlen yr eger.
8
GL14 1BH
www.severnestuarypartnership.org.uk/explore
Photocredit:AlanPiper
12. Purton Hulks
Time to discover the history and stories of the sunken ships at
Purton Hulks - the largest “ships’ graveyard” in the UK. In 1909, a
small fleet of timber lighters were beached here to strengthen
the canal bank, protecting it from eroding away by the tide. Now
it is home to over 80 boats buried here - the largest collection of
maritime artefacts on the foreshore of Britain. Friends of Purton
provide guided tours – see our website for more information.
Hylciau Purton
Camwch yn ôl drwy amser a dysgu am hanes yr holl longau sydd
wedi’u tirio yn Hylciau Purton – “mynwent longau” fwyaf y DU.
Ym 1909, tiriwyd fflyd fechan o gychod dadlwytho pren yma i
atgyfnerthu glan y gamlas a’i diogelu rhag erydiad y llanw. Mae nawr
yn gartref i fwy nag 80 o gychod – y casgliad mwyaf o arteffactau
morol ym Mhrydain. Mae Cyfeillion Purton yn cynnig teithiau tywys –
ewch i’n gwefan am ragor o wybodaeth.
9GL13 9HP
www.severnestuarypartnership.org.uk/explore
Photocredit:MeganWilde
13. Sharpness
Take in the beautiful scenery from a different vantage point – the
upper estuary. Sharpness picnic area is an ideal location for a
relaxed lunch on a sunny day. Spend some time watching boats
arriving and departing through the locks, only accessible to most
craft at high tide. Take a stroll along the coast; the views of the two
Severn Bridges in the distance are spectacular at sunset – a great
opportunity to test those photography skills.
Sharpness
Dewch i fwynhau’r prydferthwch o ongl wahanol yn yr aber uchaf.
Ardal picnic Sharpness yw’r lle delfrydol i fwynhau tamaid i’w fwyta
ar hirddydd haf. Treuliwch ysbaid yn gwylio’r cychod yn mynd a
dod drwy’r lociau, sydd ond ar agor i’r rhan fwyaf o longau gyda’r
penllanw. Ewch am dro ar hyd yr arfordir; mae’r golygfeydd o’r ddwy
Bont Hafren ar y gorwel yn syfrdanol wrth i’r haul fachlud – cyfle
gwych i gael y camera allan.
10
GL13 9UF
www.severnestuarypartnership.org.uk/explore
Photocredit:MeganWilde
14. Oldbury-on-Severn
Explore the countryside of South Gloucestershire. Oldbury-on-
Severn is a small, picturesque village with a thriving community
spirit. Follow the Severn Way to the riverside by Thornbury Sailing
Club. Stand on the bank for a unique snapshot of the estuary, with
views down to Aust, across to Gloucester, of both Severn Bridges
and Oldbury Power Station. The surrounding coastal fields offer
excellent opportunities to spot internationally important birdlife.
Ducks, waders and migratory birds all use and travel through the
area. Nearby is the Wildfowl and Wetlands Trust’s Slimbridge Wetland
Centre (see website), offering the chance to enjoy amazing wildlife
up-close.
Oldbury-on-Severn
Dewch i grwydro cefn gwlad De Swydd Gaerloyw. Mae Oldbury-on-
Severn yn bentref bach, tlws a chlos. Dilynwch Lwybr Hafren i lawr
i lan yr afon ger Clwb Hwylio Thornbury. Mae’r olygfa o’r glannau’n
unigryw – gallwch weld i lawr tuag at Aust a draw dros donnau’r
aber i Gaerloyw, dwy Bont Hafren a Phwerdy Oldbury. Mae’r caeau
arfordirol cyfagos yn gartref i adar o bwysigrwydd rhyngwladol
wrth i hwyaid, adar hirgoes ac adar mudol oll ddefnyddio theithio
drwy’r ardal. Gerllaw mae Canolfan Gwlyptiroedd Slimbridge
Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir (gweler y wefan), sy’n rhoi’r cyfle i
chi ddod wyneb-yn-wyneb â’r bywyd gwyllt.
11
BS35 1QA
www.severnestuarypartnership.org.uk/explore
Photocredit:KevinBoulton
15. Aust Cliff
The striking red, black and white layers of Aust Cliff are perhaps
the most iconic natural feature of the South Gloucestershire
landscape. It tells the story of the drowning of an ancient hot, arid
desert between 221 and 195 million years ago. Along the bottom of
the cliff, look for white rock (gypsum) in thin layers – formed when
the ancient desert lakes dried out. Bony remains of sea reptiles
like ichthyosaurs and plesiosaurs, along with sharks, shells and sea
urchins can be found on the beach below. The Aust Goddess, a small
bronze statuette, was recovered from the cliff foot 100 years ago,
thought to date back to the late Iron Age or Roman times.
Clogwyn Aust
Efallai taw Clogwyn Aust, â’i haenau coch, du a gwyn trawiadol,
yw nodwedd naturiol fwyaf eiconig tirwedd De Swydd Gaerloyw.
Dyma leoliad stori ddramatig am foddi anialdir poeth, cras, hynafol
rhwng 221 a 195 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Ar hyd gwaelod y
clogwyn, cadwch lygad allan am haenau tenau o graig wen (gypswm)
– a ffurfiwyd pan sychodd llynnoedd hynafol yr anialwch. Mae
gweddillion esgyrnol ymlusgiaid morol fel yr ichthyosor a’r plesiosor
yn yr haenau uchaf ynghyd â siarcod, cregyn a môr-ddraenogod ar y
traeth islaw. Darganfuwyd Duwies Aust, delw efydd fechan, ar waelod
y clogwyn ganrif yn ôl fwy na thebyg o ddiwedd Oes yr Haearn neu
Oes y Rhufeiniaid.
12
BS35 4BG
www.severnestuarypartnership.org.uk/explore
Photocredit:JamesFlynn
16. Severn Beach New Passage
A windswept stopping point for migratory birds, the area is much-
loved by residents, birdwatchers, walkers and cyclists and offers
incredible views north to the second Severn Crossing (opened
in 1996 at over 5km long) and south to the Avonmouth and Royal
Portbury Docks – Bristol’s maritime portal to the rest of the world.
You may even be lucky enough to spot a seal on the beach! Walk
north to join up with the New Passage Heritage Trail, a peaceful
walk to take in the river.
Traeth Hafren a’r Rhodfa
Newydd
Mae’r ardal hon, sy’n hafan wyntog i adar mudol, yn boblogaidd iawn
ymysg trigolion lleol, gwylwyr adar, cerddwyr a beicwyr ac mae’n
cynnig golygfeydd trawiadol tua’r gogledd at ail Bont Hafren (a
agorwyd ym 1996 ac sy’n fwy na 5km o hyd) ac i’r de i Avonmouth a
Dociau Brenhinol Portbury – porth morol Bryste i’r byd mawr. Gallech
weld morlo’n mwynhau ar y traeth os ydych chi’n lwcus! Cerddwch i’r
gogledd i ymuno â Llwybr Treftadaeth y Rhodfa Newydd, sy’n daith
hamddenol ar hyd yr afon.
13
BS35 4PE
www.severnestuarypartnership.org.uk/explore
Photocredit:GwilymOwen
17. Clevedon
A beautiful Victorian historic seaside town, Clevedon is a great
spot to visit all year round. Popular for its promenade, pebbled
beaches, marine lake and Victorian bandstand, and the many
cafes and restaurants to enjoy the view. Opened in 1869 to receive
paddle steamers from Devon and Wales, Clevedon Pier's exceptional
architectural quality and beautiful design led to its designation as the
UK's only functioning Grade 1 Listed Pier. Pop in to the small museum
for a range of hands-on exhibits for all ages about Clevedon, the Pier
and the estuary. The Porthole Room allows you to see the estuary
from a different perspective, with views across the estuary from
underneath the Pier.
Clevedon
Yn dref glan môr hanesyddol Fictoraidd, mae Clevedon lle gwych
i ymweld ag ef gydol y flwyddyn, yn boblogaidd am ei phromenâd,
traethau cerigos, llyn morol a llwyfan bandiau Fictoraidd, ynghyd â
chaffis a bwytai amrywiol sy’n cynnig golygfeydd ysblennydd. Dynodwyd
Pier Clevedon, a agorwyd ym 1869 i groesawu agerlongau padl o
Ddyfnaint a Chymru, yn Adeilad Gradd 1 – yr unig bier o’i fath yn y DU
– am ansawdd ei bensaernïaeth a’i ddyluniad hyfryd. Galwch draw i’r
amgueddfa fechan sy’n cynnwys amrywiaeth o arddangosiadau i bawb o
bob oedran am Clevedon, y Pier a’r aber. Mae Ystafell y Portwll yn cynnig
persbectif gwahanol o’r aber, gyda golygfa unigryw o waelod y Pier.
£ 14
BS21 7TR
www.severnestuarypartnership.org.uk/explore
Photocredit:MeganWilde
18. Sand Point Middle Hope
One of the most beautiful parts of the North Somerset coast, Sand
Point peninsula (National Trust managed), stretches from Middle
Hope beach into the estuary. A prime spot for explorers to find
clues of the past - geologists have visited here for 200 years. Spot
“tuffs” (solidified volcanic ash) and pillow lavas (formed as molten
lava cooled rapidly as it flowed into the sea) on the beach - proof of
volcanic eruptions over 300 million years ago. Tranquil and wild, if you
look out from the edge of the Point you may be lucky enough to spot
a seal or harbour porpoise. Surrounding coastal fields also provide
important resting and refuelling spots for migratory birds on passage.
Sand Point a Middle Hope
Mae pentir Sand Point, un o ardaloedd prydferthaf arfordir Gogledd
Gwlad yr Haf (a reolir gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol), yn ymestyn
o draeth Middle Hope i’r aber. Mae’n fan poblogaidd i bobl sy’n hoff
o’u hanes – mae daearegwyr wedi bod yn ymweld â’r ardal ers 200
mlynedd. Ceisiwch ddod o hyd i’r “conau twff” (lludw folcanig wedi
soledu) a’r clustogau lafa (a ffurfiwyd wrth i lafa tawdd oeri’n gyflym
wrth lifo i’r môr) ar y traeth – tystiolaeth o ffrwydradau folcanig dros
300 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Yn heddychlon a garw, gallech weld
morlo neu lamhidydd yr harbwr o’r ymylon. Mae’r caeau arfordirol
cyfagos yn hafan bwysig i lawer o adar mudol sy’n gorffwys a
bwydo yma.
£15
BS22 9UD
www.severnestuarypartnership.org.uk/explore
Photocredit:JimElliott
19. Weston-Super-Mare
Grand Pier and Birnbeck Pier
The miles of golden, flat, sandy beach offer something for everyone
at Weston-super-Mare, from paddling, to wind surfing, to donkey
riding! Stop off at the Grand Pier for an ice cream and for the
famous family-friendly indoor theme park. Look out to Birnbeck Pier
(pictured), a time capsule full of history, once linked the mainland to
Birnbeck Island. Although it was closed in 1994, cast your mind back
to the character and bustling activity that once was.
Weston-Super-Mare
Y Pier Mawr a Phier Birnbeck
Mae milltiroedd o dywod euraid, gwastad yn Weston-super-Mare,
sy’n berffaith ar gyfer padlo, hwyl-fyrddio neu fwynhau trip ar gefn
asyn! Galwch draw yn y Pier Mawr i fwynhau hufen iâ blasus a’r parc
thema dan do teuluol enwog. Edrychwch draw at Bier Birnbeck,
sy’n gapsiwl amser llawn hanes a arferai gysylltu’r tir mawr ag Ynys
Birnbeck. Cafodd ei gau ym 1994, ond caewch eich llygaid a cheisio
dychmygu bwrlwm gweithgarwch yr oes a fu.
£ 16
BS23 2EF
www.severnestuarypartnership.org.uk/explore
Photocredit:MeganWilde
20. Brean Down
Stroll along historic Brean Down, one of Somerset’s most dramatic
landmarks. This 300 million year-old Carboniferous limestone deposit
marks the end of the great chain of Mendip Hills before it disappears
into the Bristol Channel. The tip of Brean Down marks the location of
the historic Brean Fort, built in 1870 to protect the Somerset coastline
from French invasion. Walk back along the northern side’s military
road - spot a large white arrow painted on the ground. In WW2, this
indicated to passing bombers the direction of a practice range.
Continue and you will find yourself surrounded by the remnants of six
brick built Lewis Gun positions used in target practice in Weston Bay.
Twyni Brean
Dewch am dro ar hyd dwyni hanesyddol Brean, un o dirnodau mwyaf
trawiadol Gwlad yr Haf. Mae’r gaenen galchfaen garbonifferaidd hon,
sy’n 300 miliwn oed, yn cynrychioli diwedd cadwyn fawr Bryniau
Mendip, cyn diflannu o dan donnau Môr Hafren. Copa’r twyni yw lleoliad
Caer Brean, a adeiladwyd ym 1870 i warchod arfordir Gwlad yr Haf
rhag y Ffrancwyr. Cerddwch yn ôl ar hyd ffordd filwrol y gogledd ac fe
welwch saeth fawr wen wedi’i phaentio ar y llawr. Yn yr Ail Ryfel Byd,
dangosai hon y ffordd i’r maes ymarfer cyfagos i awyrennau bomio.
Ewch yn eich blaenau a chyn pen dim byddwch wedi’ch amgylchynu
gan weddillion chwe safle saethu Gynnau Lewis a ddefnyddiwyd i
ymarfer saethu targedau ym Mae Weston.
£17
TA8 2RS
www.severnestuarypartnership.org.uk/explore
Photocredit:AlunRogers
21. Berrow Beach
The long, beautiful six-mile stretch of golden sand between
Burnham and Brean is not to be missed when out on the Somerset
coast. The sand dunes support some of the most diverse flora in
Somerset – over 270 species of wildflower have been identified. At
low tide, discover the wreck of the SS Nornen, a Norwegian Barque
which ran aground here in 1897.
Traeth Berrow
Mae chwe milltir o dywod euraid yn estyn rhwng Burnham a Brean
– dyma un o uchafbwyntiau arfordir Gwlad yr Haf. Peidiwch â’i
fethu, da chi. Mae’r twyni tywod yn gartref i’r amrywiaeth fwyaf o
fflora yng Ngwlad yr Haf – dros 270 o rywogaethau o flodau gwyllt.
Gyda thrai’r llanw, gallwch weld llong ddrylliedig yr SS Nornen, llong
Norwyaidd a diriodd yma ym 1897.
£ 18
TA8 2QZ
www.severnestuarypartnership.org.uk/explore
Photocredit:SecretSomerset
22. Burnham-On-Sea
Burnham-on-Sea is a thriving seaside town with an award-winning
sandy beach, ideal for a fish and chips fix and an afternoon building
sandcastles. The Pier is famous for being Britain’s shortest and
the classic promenade is lined with Victorian and Edwardian guest
houses. If the tide permits wander along the beach up to the iconic
“lighthouse on legs”, built in 1832 to guide fishing boats into the
harbour.
Burnham-On-Sea
Mae Burnham-on-Sea yn dref glan môr fywiog â thraeth tywodlyd
sydd wedi ennill gwobrau lu – delfrydol ar gyfer mwynhau ‘sgod a
‘sglods a phrynhawn yn adeiladu cestyll tywod. Y Pier yw’r un byrraf
yng ngwledydd Prydain ac mae’r promenâd clasurol dan ei sang â
gwestai Fictoraidd ac Edwardaidd. Os yw’r llanw’n caniatáu, ewch
am dro ar hyd y traeth i’r “goleudy ar goesau” eiconig, a adeiladwyd
ym 1832 i dywys pysgotwyr yn ôl i’r harbwr.
£19
TA8 1BU
www.severnestuarypartnership.org.uk/explore
Photocredit:NigelMatthews
23. Steart Marshes
One of the UK’s largest new wetland reserves, the Wildfowl and
Wetland Trust’s (in partnership with the Environment Agency) Steart
Marshes is a wildlife-watchers’ paradise. Wait unseen in the hides,
and enjoy the sound of skylark during the spring and summer
and impressive displays of wintering bird flocks being flushed by
peregrine falcons. The hundreds of hectares of saltmarsh and
freshwater wetlands also provide a home for a rich mix of wildlife
including otters, roe deer and brown hare. For panoramic, 360°
views of the marshes (not one to miss), head out to the breach
point – visit at its best on a big spring tide.
Corsydd Steart
Mae Corsydd Steart, sydd dan reolaeth Ymddiriedolaeth Adar y
Gwlyptir (mewn partneriaeth ag Asiantaeth yr Amgylchedd), yn
un o warchodfeydd gwlyptir newydd mwya’r DU ac yn baradwys i
wylwyr bywyd gwyllt. Defnyddiwch y cuddfannau i fwynhau cân yr
ehedydd yn y gwanwyn a’r haf a heidiau trawiadol o adar gaeafu’n
cael eu cwrso gan y cudyll glas. Mae’r cannoedd o hectarau o
heli a gwlyptiroedd dŵr croyw hefyd yn gartref i gyfoeth o fywyd
gwyllt, gan gynnwys dyfrgwn, iyrchod ac ysgyfarnogod brown. Am
olygfeydd panoramig 360° o’r corsydd (peidiwch â’u methu), ewch i’r
bwlch – os gallwch yn enwedig â phenllanw’r gwanwyn.
20
TA5 2PU
www.severnestuarypartnership.org.uk/explore
Photocredit:AdamFreeman(WWT)