2. Gwybodaeth am Awdurdod Cyllid Cymru (ACC)
Mae Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn un o Adrannau Anweinidogol Llywodraeth
Cymru. Wedi ei sefydlu'n ffurfiol ym mis Hydref 2017, bydd yn gyfrifol am gasglu a
rheoli’r trethi datganoledig cyntaf yng Nghymru - y trethi cyntaf o Gymru ers tua
800 o flynyddoedd - o 1 Ebrill 2018 ymlaen.
Sefydlwyd yr Awdurdod Cyllid yn dilyn cyflwyno Deddf Casglu a Rheoli Trethi
(Cymru) 2016. Bydd yn gyfrifol am weinyddu'r Dreth Trafodiadau Tir a'r Dreth
Gwarediadau Tirlenwi. Caiff yr Awdurdod Cyllid ei reoli gan fwrdd, sy’n cynnwys
cadeirydd a phum cyfarwyddwr anweithredol. I gael rhagor o wybodaeth am
Awdurdod Cyllid Cymru, ewch i www.gov.wales/wra.
Mae cynnwys ac amseru’r ystadegau swyddogol a gynhyrchir gan ACC yn cael eu
rheoli’n annibynnol gan y Pennaeth Dadansoddi Data, yn unol â’r Cod Ymarfer ar
gyfer Ystadegau.
3. Mae dilyn yr amserlen hon i gyhoeddi diweddariadau rheolaidd yn rhan
allweddol o ddull gweithredu agored a thryloyw yng nghyswllt ein data,
ac rwy’n awyddus i feithrin hynny. Wrth i waith fy nhîm bach
ddatblygu, byddwn yn ceisio cynnig ein data mewn fformatau agored
ac am ddim, gan geisio cefnogi mynediad cyfartal ac ailddefnyddio’r
data, ar yr un pryd â chydbwyso cyflwyno prydlonn ag ansawdd.
Bydd ymgysylltu â’n defnyddwyr yn agwedd allweddol o hyn, ac felly
rwy’n gobeithio y bydd hwn yn gyflwyniad defnyddiol i chi i’n
hystadegau. Beth bynnag fydd eich barn, bydden ni’n falch iawn o
gael unrhyw adborth neu ateb cwestiynau sydd gennych chi.
Rhagair gan Bennaeth Dadansoddi Data ACC
Adam Al-Nuaimi
Pennaeth Dadansoddi Data, ACC
Croeso i’r cyntaf o gyfres reolaidd o gyhoeddiadau ystadegau gan Awdurdod Cyllid Cymru. Mae’n
tynnu sylw at rai ystadegau allweddol ar gofrestru defnyddwyr ar y system ar-lein ar gyfer y Dreth
Trafodiadau Tir yng Nghymru, ac mae’n rhoi rhywfaint o gyd-destun ynghylch ein dull gweithredu
ystadegol i’r dyfodol, gan gynnwys amserlen ar gyfer ystadegau ACC yn y dyfodol.
4. 1,229 o gofrestriadau ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir rhwng Chwefror 2018 a 15 Ebrill
2018
• Cafodd 1,149 (93 y cant) o'r cofrestriadau hyn eu cymeradwyo* ar system ACC. Roedd y
cofrestriadau na chawsant eu cymeradwyo bron i gyd yn gofrestriadau dyblyg.
Roedd y rhan fwyaf o’r cofrestriadau yn Lloegr
• Roedd 72 y cant yn Lloegr, 27 y cant yng Nghymru, ac roedd 2 y cant o wlad arall.
Cafwyd y nifer mwyaf o gofrestriadau yn ystod yr wythnos 19 i 25 Chwefror
• Cafwyd tua 100 o gofrestriadau ar 20 Chwefror, sef dyddiad agor y cofrestru yn ffurfiol.
• Cafodd tua 110 i 180 o gofrestriadau yr wythnos eu cymeradwyo ar ôl y prysurdeb
cychwynnol; gyda’r rhan fwyaf o'r cofrestriadau’n digwydd ar 28 Mawrth (53), 26 Chwefror
(47), a 29 Mawrth (44). Mae’n debyg bod y ddau ddyddiad ym mis Mawrth a restrir
oherwydd gŵyl banc Ebrill ar ddiwedd yr wythnos honno.
Pwyntiau allweddol ar gyfer y datganiad ystadegol
hwn
*Mae’r nifer a gymeradwywyd yn cynnwys nifer bach o gofrestriadau sy’n disgwyl cael eu cymeradwyo oherwydd rheoli llif
gwaith ACC.
5. Datganiadau ystadegol ACC (1)
Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir
Ystadegau misol
(Ebrill-Mehefin 2018)
Adroddiadau ar y prif
bwyntiau sy’n cyflwyno
data ar:
• nifer y cofrestriadau
• gwerth y ffurflenni treth
• rhai sylwadau i helpu i
ddehongli’r ystadegau
Bydd y tablau’n cael eu
cyhoeddi mewn taenlenni
Bydd y tablau hyn yn
symud i StatsCymru ar ôl
sefydlu'r swyddogaeth hon.
Ystadegau misol
(Gorffennaf 2018 ymlaen)
Rhyddhau data yn unig (dim
sylwadau) tua 10 diwrnod ar
ôl diwedd y mis blaenorol, a
fydd yn rhoi sylw i:
• nifer y cofrestriadau
• gwerth y ffurflenni treth
• dadgyfuno’r data
Bydd y tablau’n cael eu
cyhoeddi ar StatsCymru
mewn fformat data agored.
Ystadegau chwarterol
Bydd datganiadau
chwarterol yn darparu:
• amcangyfrifon a fydd
wedi cael eu diweddaru
a’u glanhau o’r data
misol
• dadgyfuno’r data, pan
fydd y niferoedd yn
ddigon mawr
• sylwadau ar batrymau
Ystadegau blynyddol
Ar hyn o bryd rydyn ni’n
ystyried a fyddai
datganiad blynyddol yn
cynnig gwerth
ychwanegol i
ddefnyddwyr. Byddwn yn
gwerthuso i benderfynu a
fyddwn yn dadgyfuno data
ymhellach os ystyrir
hynny ar gyfer y flwyddyn
gyfan. Pan fo’n bosibl,
byddai modd integreiddio
hyn i’r ystadegau
chwarterol er mwyn
darparu amcangyfrifon
sy’n fwy amserol.
Bydd dadansoddiad o’r Dreth Trafodiadau Tir yn deillio o’r dyddiad y caiff y dreth ei
hasesu (dyddiad y contract yn aml).
6. Datganiadau ystadegol ACC (2)
Ystadegau’r Dreth Gwarediadau
Tirlenwi
Cyhoeddiadau eraill
Ystadegau chwarterol
Bydd datganiadau
chwarterol yn darparu:
• amcangyfrifon
chwarterol o’r data ar
sail amrywiol gyfnodau
cyfrifyddu o dri mis pob
un o’r gweithredwyr
• dadgyfuno’r data, pan
fydd y niferoedd yn
ddigon mawr
• sylwadau ar batrymau.
Ystadegau blynyddol
Ar hyn o bryd rydyn ni’n
ystyried a fyddai datganiad
blynyddol yn cynnig gwerth
ychwanegol i ddefnyddwyr.
Byddwn yn gwerthuso i
benderfynu a fyddwn yn
dadgyfuno data ymhellach
os ystyrir hynny ar gyfer y
flwyddyn gyfan. Pan fo’n
bosibl, byddai modd
integreiddio hyn i’r
ystadegau chwarterol er
mwyn darparu
amcangyfrifon sy’n fwy
amserol.
Polisïau ystadegol
Dogfennau yn dystiolaeth
o sut rydyn ni’n dilyn y Cod
Ymarfer ar gyfer
Ystadegau
Gwybodaeth am
ansawdd
Dogfennau sy’n amlinellu
ein ffynonellau data, ein
dulliau a’n harferion
sicrhau ansawdd, a
gwybodaeth ychwanegol
ar ‘ddigwyddiadau
arbennig’ sy’n effeithio ar
ein hystadegau
Ceisiadau ad-hoc
Byddwn yn cyhoeddi
ymatebion i unrhyw gais
gan ddefnyddwyr ein
hystadegau, gan
gynnwys ceisiadau
Rhyddid Gwybodaeth.
7. Mae’r Dreth Trafodiadau Tir yn dreth ddatganoledig a gyflwynwyd yng
Nghymru ar 1 Ebrill 2018.
Mae'n berthnasol i drafodiadau sy'n ymwneud â chaffael buddiannau
trethadwy mewn tir ac adeiladau yng Nghymru yw’r Dreth Trafodiadau Tir. Yn
syml: mae’n dreth sy’n berthnasol pan fydd tir a/neu adeiladau’n cael eu
gwerthu a’u prynu.
Trethi cyfatebol yng ngweddill y DU
Mae’r Dreth Trafodiadau Tir yn cymryd lle Treth Dir y Dreth Stamp yng
Nghymru, ac mae Treth Dir y Dreth Stamp yn parhau yn Lloegr.
Mae Ystadegau Treth Dir y Dreth Stamp gan gynnwys ystadegau blaenorol ar
gyfer Cymru ar gael yma.
Yn yr Alban, y dreth gyfatebol ydy’r Dreth Trafodiadau Tir a Busnes. Mae
ystadegau am y Dreth Trafodiadau Tir a Busnes ar gael yma.
Y Dreth Trafodiadau Tir
8. Y broses gofrestru
Mae’r ystadegau sydd yn y datganiad
hwn yn ymwneud â’r broses gofrestru
Mae
perchennog tir
yn cytuno i
brynu/gwerthu
tir a/neu
adeiladau
Mae’n
berthnasol i
dir/adeiladau
busnes neu
breswyl
Mae sefydliad
(cyfreithwyr,
asiant neu
drosgludiaethwr
cyfreithiol) yn
cofrestru ag ACC
Bydd staff ACC
wedyn yn
cymeradwyo’r
cais
Mae’r broses hon
yn gallu cymryd
hyd at bythefnos
Mae defnyddwyr
unigol o’r
sefydliad yn
cofrestru i
ddefnyddio
gwasanaeth ar-
lein ACC
Mae data’n cael
ei gasglu mewn
ffordd sy’n cyd-
fynd â hysbysiad
preifatrwydd ACC
Bydd y sefydliad
yn drafftio, yn
gweld ac yn
cyflwyno ffurflen
dreth ar ran prynwr
Bydd data
personol sy’n
ymwneud â’r
trafodiad yn cael ei
gasglu a’i gadw
mewn ffordd sy’n
cyd-fynd â
hysbysiad
preifatrwydd
cynhwysfawr ACC
Mae'r sefydliad
yn cael
tystysgrif sy’n
cadarnhau’r
trafodiad ar
ran y prynwr
Mae'r prynwr
yn talu unrhyw
dreth sy’n
daladwy
(drwy’r
sefydliad)
Y broses ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir
9. Nifer y cofrestriadau
1,229 o gofrestriadau ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir rhwng Chwefror
2018 a 15 Ebrill 2018
• Cafodd 1,149 (93 y cant) o'r cofrestriadau hyn eu cymeradwyo* ar system
ACC. Roedd y cofrestriadau na chawsant eu cymeradwyo bron i gyd yn
gofrestriadau dyblyg.
Ffigur 1: Nifer cronnus o gofrestriadau’r Dreth Trafodiadau Tir
*Mae’r nifer a gymeradwywyd yn cynnwys nifer bach o gofrestriadau sy’n disgwyl cael eu cymeradwyo oherwydd rheoli llif gwaith ACC.
0
200
400
600
800
1000
1200
19 Chwefror 26 Chwefror 05 Mawrth 12 Mawrth 19 Mawrth 26 Mawrth 02 Ebrill 09 Ebrill
Cofrestriadau
10. Nifer y cofrestriadau
Roedd y rhan fwyaf o’r cofrestriadau
a gafodd eu cymeradwyo* yn Lloegr
• Roedd 822 (72 y cant) yn Lloegr.
• Roedd 306 (27 y cant) yng Nghymru.
• Roedd 21 (2 y cant) o wlad arall.
*Mae’r nifer a gymeradwywyd yn cynnwys nifer bach o gofrestriadau sy’n disgwyl cael eu cymeradwyo oherwydd rheoli llif gwaith ACC.
Ffigur 2: Sefydliadau sydd wedi cofrestru ar
gyfer y Dreth Trafodiadau Tir yn ôl Gwlad
822
71.5%
21
1.8%
306
26.6%
Lloegr Eraill Cymru
11. Cofrestriadau dros amser
Cafwyd y nifer mwyaf o gofrestriadau yn ystod yr wythnos 19 i 25 Chwefror
• Cafwyd tua 100 o gofrestriadau ar 20 Chwefror, sef dyddiad agor y cofrestru yn ffurfiol.
• Cafodd tua 110 i 180 o gofrestriadau yr wythnos eu cymeradwyo* ar ôl y prysurdeb cychwynnol;
gyda’r rhan fwyaf o'r cofrestriadau’n digwydd ar 28 Mawrth (53), 26 Chwefror (47), a 29 Mawrth
(44). Mae’n debyg bod y ddau ddyddiad ym mis Mawrth a restrir oherwydd gŵyl banc Ebrill ar
ddiwedd yr wythnos honno.
*Mae’r nifer a gymeradwywyd yn cynnwys nifer bach o gofrestriadau sy’n disgwyl cael eu cymeradwyo oherwydd rheoli llif gwaith ACC.
Ffigur 3: Sefydliadau sydd wedi cofrestru ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir yn ôl Dyddiad
102
57
34
23
0 0
47
38 36 35
22
0 2
36
30 27 27
23
0 1
16 19
26
19 20
0 2
37
31
24 22
16
0 1
23
40
53
44
2 0 1 4
31 33
21 20
0 0
22 22
15 15
24
0 0
0
20
40
60
80
100
120
20 Chwefror 27 Chwefror 6 Mawrth 13 Mawrth 20 Mawrth 27 Mawrth 3 Ebrill 10 Ebrill
Cofrestriadau
12. Nifer o ddefnyddwyr ar gyfer sefydliadau
cofrestredig
• Roedd 2,515 o ddefnyddwyr cofrestredig.
• Roedd gan 568 o sefydliadau un neu ddau o
ddefnyddwyr cofrestredig.
• Roedd gan 55 o sefydliadau 10 neu fwy o
ddefnyddwyr.
Roedd nifer y defnyddwyr a oedd wedi cofrestru ar gyfer sefydliadau
cymeradwy* yn amrywio o 1 i 56.
*Mae’r nifer a gymeradwywyd yn cynnwys nifer bach o gofrestriadau sy’n disgwyl cael eu cymeradwyo oherwydd rheoli llif gwaith ACC.
Ffigur 4: Sefydliadau Cymeradwy yn ôl
Nifer y Defnyddwyr
308
27.4%
568
50.6%
192
17.1%
55
4.9%
0 Defnyddwyr 1-2 Defnyddwyr 3-9 Defnyddwyr 10+ Defnyddwyr
13. Dibynadwyedd yr ystadegau hyn
Mae ‘dibynadwyedd’ yn ymwneud â'r hyder yn y bobl a’r sefydliadau sy’n cynhyrchu'r ystadegau a'r data.
Mae’r wybodaeth isod yn amlinellu sut rydyn ni’n gweithio i sicrhau ein bod yn diwallu egwyddorion ac arferion y Cod
Ymarfer.
Mae ein calendr o’r allbynnau ystadegol sydd wedi cael eu cynllunio ar gyfer y dyfodol ar gael yma.
Bydd ein polisi interim ar allbynnau ystadegol yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir, a bydd yn amlinellu:
• y safonau proffesiynol a ddilynwyd wrth greu’r ystadegau hyn;
• sut mae Swyddog Arweiniol Ystadegau ACC yn rheoli cynnwys ac amseru’r allbynnau’n annibynnol;
• sut rydyn ni’n rhoi gwybod i ddefnyddwyr am allbynnau sydd ar y gweill; a
• bydd staff sy’n ymwneud â chynhyrchu ystadegau’n mynd drwy ddatblygiad proffesiynol parhaus yn unol â
fframwaith Cymwyseddau'r Gwasanaeth Sifil a fframwaith cymwyseddau Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth.
Bydd rhagor o ddogfennau cefnogol yn cael eu cyhoeddi gyda’r datganiadau ystadegol sydd ar y gweill a byddant yn
amlinellu:
• sut byddwn yn ymwneud â defnyddwyr; a
• sut caiff data ei gasglu, ei storio a’i reoli.
14. Ansawdd yr ystadegau hyn
Mae ‘ansawdd’ yn ymwneud â’r data a’r dulliau sy’n cynhyrchu ystadegau wedi’u sicrhau
Mae’r wybodaeth isod yn amlinellu sut mae ACC yn diwallu egwyddorion ac arferion y Cod
Ymarfer.
Mae’r diagram proses cynharach yn amlinellu sut mae’r data a ddefnyddir yn y datganiad
ystadegol hwn yn cael ei gasglu. Mae’r data cofrestru a’r data ffurflenni treth yn ffynonellau o
ddata gweinyddol. Rydyn ni wedi asesu’r budd a’r pryderon posibl o ran ansawdd yn unol â
chanllawiau Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth ar ddefnyddio data gweinyddol.
Mae ystadegwyr ACC yn ymwneud â chasglu a rheoli'r naill ffynhonnell data a’r llall a ddefnyddir.
Felly, rydyn ni’n ystyried bod lefel y risg o bryderon ynghylch ansawdd yn debyg o fod yn isel.
Fodd bynnag, ymchwilir yn llawn i hyn wrth i'r data a’r dogfennau ansawdd gael eu datblygu.
Ffynhonnell data Proffil budd
y cyhoedd
Lefel y risg o bryderon
ynghylch ansawdd
Lefel yr wybodaeth
sicrwydd a ddatblygir
Data cofrestru’r Dreth
Trafodiadau Tir
Isel I’w bennu A1 – sicrwydd sylfaenol
Ffurflenni treth y Dreth
Trafodiadau Tir
Canolig I’w bennu A2 – sicrwydd uwch
15. Datblygu gwybodaeth o ansawdd (1)
Bydd ein dull gweithredu o ran gwybodaeth o ansawdd yn datblygu wrth i ni gasglu data
I ddechrau byddwn yn edrych i ddod o hyd i wallau a allai ddigwydd neu sydd wedi digwydd yn
ystod yr wythnosau cyntaf o gasglu data. Byddwn wedyn yn ystyried a oes unrhyw ddulliau
ychwanegol mae modd eu defnyddio i sicrhau bod y data sy’n cael ei dderbyn o ansawdd uchel.
Byddwn yn tynnu sylw at faterion i’w hystyried ac yn rhoi cyngor ynghylch sut mae dehongli’r
ystadegau hyn, a byddwn hefyd yn rhoi dadansoddiad a fydd yn caniatáu i ddefnyddwyr ddeall y
materion hyn. I ddechrau rydyn ni wedi canfod angen am wybodaeth ar dri mater posibl, mae’r
rhain yn cael eu hamlinellu ar y sleid nesaf.
Rydyn ni’n croesawu mewnbwn defnyddwyr at y gwaith o ddatblygu'r wybodaeth hon ac a oes
unrhyw faterion eraill y dylid eu hystyried. Cysylltwch â ni gyda’ch awgrymiadau.
16. Datblygu gwybodaeth o ansawdd (2)
Materion rydyn ni’n eu hystyried
1. Cyd-fynd ag ystadegau a gyhoeddir gan CThEM a Chyllid yr Alban.
Wrth i ni fynd â´r gwaith hwn rhagddo, byddwn yn canfod pa ystadegau mae modd eu cymharu, a
byddwn yn darparu gwybodaeth sy’n rhoi manylion yr hyn sy’n wahanol a’r hyn sy’n debyg rhwng
ffynonellau.
2. Dehongli effeithiau achub y blaen
Gallai gyfradd y dreth a fyddai’n cael ei thalu ar gyfer yr un eiddo fod yn wahanol rhwng Treth Dir y Dreth
Stamp a'r Dreth Trafodiadau Tir. Mae hyn yn gymhelliant i unigolion a chwmnïau naill ai gyflymu neu oedi
gweithgarwch trethadwy eu cais. Yn ymarferol, weithiau caiff hyn ei alw yn achub y blaen, ac o bosibl
mae’n arwain at gynhyrchu llai o refeniw treth yn ystod misoedd cynnar y Dreth Trafodiadau Tir.
3. Ystyriaeth ynghylch prydlondeb ystadegau ynghyd ag effaith diwygiadau posibl
Ein dyhead ar hyn o bryd ydy rhyddhau ystadegau tua 10 diwrnod gwaith ar ôl diwedd y cyfnod adrodd.
Wrth i ddata gael ei gasglu byddwn yn sefydlu a ydy’r amserlenni hyn yn realistig ac effaith yr amserlenni
hyn ar ddiwygiadau.
17. Gwerth yr ystadegau hyn
Mae ystadegau ‘gwerthfawr’ yn cefnogi anghenion cymdeithas am wybodaeth
Mae’r ystadegau hyn wedi cael eu sefydlu er mwyn diwallu gofyniad y defnyddiwr i
weithredu'r Dreth Trafodiadau Tir, ar ôl sefydlu ACC.
Bydd ein polisi interim ar allbynnau ystadegol yn amlinellu:
• sut rydyn ni’n sicrhau bod ein hallbynnau o fewn cyrraedd pob defnyddiwr; a
• mynediad cyn-rhyddhau at yr ystadegau hyn.
Mae rhestr o’r rheini a gafodd fynediad cyn-rhyddhau at y datganiad ystadegol hwn ar gael
ar dudalennau gwe ACC.
Rydyn ni’n datblygu ein hallbynnau ystadegol ar ofynion defnyddwyr. Cysylltwch â ni gydag
unrhyw adborth.