2. Mae yna 1,909 o ardaloedd bach yng Nghymru
sydd â phoblogaeth o tua 1,600.
Mewn 35o’r ardaloedd hyn, mae
25% neu fwy o'r boblogaeth oedran
gweithio mewn amddifadedd cyflogaeth.
3. Mae hyn yn golygu nad ydynt yn gweithio, heb i
hynny fod o’u gwirfodd. Mae'n cynnwys y rheini
na allant weithio oherwydd salwch a'r rhai sy'n
ddi-waith, ond wrthi'n chwilio am waith.
Mae'n seiliedig ar y rhai sy'n hawlio budd-
daliadau sy'n gysylltiedig â chyflogaeth fel Lwfans
Ceisio Gwaith, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
neu Gredyd Cynhwysol.
4. Ble mae’r ardaloedd hyn?
Mae yna:
6 yn Rhondda Cynon Taf
5 yn Abertawe
5 yng Nghastell-nedd Port Talbot
4 yn Sir Ddinbych
3 yng Nghaerffili
3 yng Nghonwy
2 ym Mhen-y-bont ar Ogwr
2 yng Nghasnewydd
2 yng Nghaerdydd
1 ym Mhowys
1 yn Sir Gaerfyrddin
1 ym Mlaenau Gwent
5. Beth yw’r gyfradd uchaf?
Mae 45% o’r boblogaeth
oedran gweithio mewn
amddifadedd cyflogaeth yn
Rhyl Gorllewin 2, Sir Ddinbych,
Gogledd Cymru
Yr ardal hon oedd yr ardal
gyda’r gyfradd uchaf dros nifer
o’r blynyddoedd diwethaf.
Y gyfradd uchaf nesaf yw 37%
yng Nglyn (Conwy) 2, Conwy,
Gogledd Cymru
6. Pa grwpiau oedran sydd â'r cyfraddau
uchaf yn y ardaloedd hyn?
Cyfraddau amddifadedd cyflogaeth gyfartalog ar gyfer pob grŵp
oedran ar gyfer y 35 o ardaloedd bach gyda chyfradd gyffredinol
amddifadedd cyflogaeth o 25% neu uwch, 2016-17
Mae grwpiau oedran hŷn
yn fwy tebygol o fod
mewn amddifadedd
cyflogaeth yn yr
ardaloedd hyn
Fodd bynnag, yn Rhyl
Gorllewin 2, roedd 74%
o'r grŵp oedran 35 i 39
mewn amddifadedd
cyflogaeth ac yng Nglyn
(Conwy) 2, roedd hyn yn
wir am 42% o’r grŵp
oedran 19 i 24.
%
Grŵp oedran
0
5
10
15
20
25
30
35
40
45
16 i 18 19 i 24 25 i 29 30 i 34 35 i 39 40 i 44 45 i 49 50 i 54 55 i 59 60 i 64
7. Pa fath o fudd-daliadau sy'n gysylltiedig
â chyflogaeth sydd yn fwyaf cyffredin yn
yr ardaloedd hyn?
Yn yr ardaloedd hyn mae’r rhan fwyaf o hawlwyr yn
hawlio budd-daliadau sy'n gysylltiedig â salwch, megis
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
Fodd bynnag, nid yw hyn yn benodol i’r ardaloedd
bach ag amddifadedd cyflogaeth uchel - mae'n wir am
y rhan fwyaf o ardaloedd bach ledled Cymru.
Nodyn: Cyfrifwyd trwy dynnu'r ffigurau ar nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau sy'n gysylltiedig â chwilio am waith (a
gyhoeddwyd ar Nomis) o nifer y bobl mewn amddifadedd cyflogaeth yn gyfan gwbl (a ddarparwyd gan yr Adran Gwaith a
Phensiynau)
8. Ond nid yw'r holl bobl o oedran gweithio yn yr ardaloedd
hyn mewn amddifadedd cyflogaeth
Hyd yn oed yn y 35 ardal hyn dydy’r mwyafrif (55 i 75%) DDIM
mewn amddifadedd cyflogaeth
Ac mae rhai pobl mewn amddifadedd cyflogaeth ym
mhob ardal
Mae'r ardaloedd hyn yn cynnwys bron i 5% o’r holl bobl mewn
amddifadedd cyflogaeth yng Nghymru, sy’n golygu bod 95%
ohonynt yn byw mewn ardaloedd eraill
Yn wir, mae dros chwarter y rhai mewn amddifadedd
cyflogaeth yn byw yn yr hanner lleiaf difreintiedig o ardaloedd
9. Rhestr o’r ardaloedd
Ardal Cynnyrch
Eang Haen Is Awdurdod Lleol
Cyfradd
Amddifadedd
Cyflogaeth
Rhyl Gorllewin 2 Sir Ddinbych 45.15
Glyn (Conwy) 2 Conwy 37.33
Sant Iago 3 Caerffili 35.05
Castell 2 Gogledd Abertawe 34.33
Rhyl Gorllewin 1 Sir Ddinbych 33.06
Abergele Pensarn 2 Conwy 31.65
Tyisa 2 Sir Gaerfyrddin 30.37
Twyn Carno 1 Caerffili 30.13
Castell-Nedd
Gogledd 2 Catell-nedd Port Talbot 30.11
Caerau (Pen-y-bont
ar Ogwr) 1
Pen-y-bont ar Ogwr
30.08
Castell 1 Abertawe 29.77
Tredegar Canol a
Gorllewin 2 Blaenau Gwent 29.42
Pilgwenlli 4 Casnewydd 29.38
Pendyrus 1 Rhondda Cynon Taf 28.49
Penderi 3 Abertawe 28.09
Townhill 2 Abertawe 27.80
Cymer (Castell-nedd
Port Talbot) 2 Catell-nedd Port Talbot 27.29
Ardal Cynnyrch Eang
Haen Is Awdurdod Lleol
Cyfradd Amddifadedd
Cyflogaeth
Bargod 4 Caerffili 26.71
Y Maerdy 2 Rhondda Cynon Taf 26.56
Rhyl Dwyrain 3 Sir Ddinbych 26.48
Mynydd-bach 1 Abertawe 26.42
Betws (Casnewydd) 1 Casnewydd 26.41
Rhiw 3 Conwy 26.29
Penrhiw-ceiber 1 Rhondda Cynon Taf 26.27
Castell-Nedd Dwyrain
2 Catell-nedd Port Talbot 26.24
Plasnewydd 7 Caerdydd 26.11
Pentre 3 Rhondda Cynon Taf 25.60
Llansawel Gorllewin 1 Catell-nedd Port Talbot 25.51
Caerau (Pen-y-bont ar
Ogwr) 2 Pen-y-bont ar Ogwr 25.44
Aberafan 4 Catell-nedd Port Talbot 25.41
Pen-y-waun 2 Rhondda Cynon Taf 25.30
Rhyl Gorllewin 3 Sir Ddinbych 25.26
Y Sblot 6 Caerdydd 25.19
Rhydfelen Canol / Llan
2 Rhondda Cynon Taf 25.13
Ystradgynlais 1 Powys 25.02
10. Hoffech chi gael mwy o wybodaeth?
Mae'r wybodaeth a geir yma yn dod o’r diweddariad blynyddol i
ddetholiad o ddangosyddion sy'n cyfrannu at Fynegai Amddifadedd
Lluosog Cymru (MALlC).
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am amddifadedd cyflogaeth a'r holl
ddangosyddion eraill sy’n cyfrannu at MALlC wrth ymweld â’n tudalennau
gwe:
Tudalen we MALlC
Tudalen we dangosyddion MALlC
MALlC ar StatsCymru
Neu gellir e-bostio ein tîm:
ystadegau.cynhwysiant@llyw.cym